1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 31 Ionawr 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn dilyn cyhoeddiad gwaharddiad teithio hiliol Arlywydd Trump, a bu gwrthdystiadau ar draws y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn gwrthod y syniad o ymraniad. Ond mae'r mater yn ehangach na’r gwaharddiad penodol hwnnw yn unig. Mae’r holl gwestiwn o fudo wedi troi’n ddadl wenwynig. A wnewch chi ymuno â mi, ac eraill yn y Cynulliad hwn, i’w gwneud yn eglur bod Cymru yn dal ar agor i fusnes, ar agor i ymwelwyr, ac, yr un mor bwysig, ar agor i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth? A ydych chi’n cytuno â mi nad oes lle i’r wleidyddiaeth hon o ymrannu, ar sail tarddiad cenedlaethol, neu grefydd, yng Nghymru, nac, yn wir, mewn unrhyw le arall?
[Anghlywadwy.]—y teimladau hynny. Rydym ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn ddisgynyddion mewnfudwyr—mater o bryd y daeth ein teuluoedd i’r ynys hon yw hi. Mae llawer mwy yn ein huno fel bodau dynol nag all o bosibl ein hymrannu. Ac rwy’n rhannu'r farn bod y drafodaeth bresennol mewn mwy nag un wlad o gwmpas y byd yn ymwneud â mudo yn wenwynig. Mae'n eironig fod y drafodaeth weithiau ar ei mwyaf gwenwynig mewn gwledydd sy’n llawn mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf, neu ail a thrydedd genhedlaeth. Dyna eironi hyn. Ond y gwir amdani yw ein bod ni’n gwybod pan ganiateir i genedlaetholdeb, yn nhermau cenedlaetholdeb asgell dde eithafol, gymryd gafael, fel y gwelsom yn y 1930au, trychineb yw’r canlyniad.
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog, a byddwn yn cytuno â llawer o'r safbwyntiau a fynegwyd gennych yn y fan yna. Nawr, un o'r ffactorau a oedd yn ddylanwadol yng nghanlyniad refferendwm yr UE oedd y mater o gyflogau a thandorri llafur. Nawr, mae’r camfanteisio hwn yn digwydd, nid oes amheuaeth am hynny. Byddwch yn ymwybodol, fel yr wyf innau, o gyflogwyr diegwyddor yn codi tâl am lety ac yn ei ddidynnu o gyflogau pobl. Nid yw’r gweithwyr hynny mewn undebau llafur, ac maen nhw’n aml yn cael eu talu llai na'r isafswm cyflog i bob pwrpas. Nawr, camfanteisir ar weithwyr mudol ac mae’r cyflogwyr hynny hefyd yn tandorri gweithwyr Cymru. Felly, mae’r ddau fath o weithwyr yn dioddef. Ddoe, cawsom gyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, a gwnaed y pwynt hwn, rwy’n meddwl ei bod yn deg i ddweud, yn gryf. Y bore yma, rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, yn galw am orfodi llawer cryfach, yn union fel y galwais ar Lywodraethau Llafur blaenorol i'w wneud. Mae'n rhaid ymdrin â’r mater, gan fod y tandorri a’r camfanteisio hwn yn cael ei ddefnyddio gan rai gwleidyddion i fanteisio ar bryderon pobl am fudo. Roedd hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyfrannu ddoe, gan fynd yn gwbl groes i’r ffeithiau a’r dystiolaeth ynghylch pam mae cyflogau wedi bod yn ddisymud. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i’r camfanteisio ar weithwyr gan gyflogwyr diegwyddor ddod i ben, ac a wnaiff ef gytuno i fynd i'r afael â’r mater gan ddefnyddio pa bynnag bwerau sydd ar gael iddo, ni waeth beth fydd canlyniad y trafodaethau Brexit?
Wel, yn wir. Roedd hi a minnau yn y cyfarfod hwnnw gyda David Davis ddoe. Cytunodd—cytunodd â'r hyn a ddywedasom, ond y cwestiwn yw, wrth gwrs, un peth yw cytuno, peth arall yw gweithredu. Gwnaed y pwynt—a gwnaeth hi’r pwynt—nad ydym ni wedi gweld erlyniadau am dorri deddfwriaeth isafswm cyflog, yn bennaf gan nad yw mor syml â hynny. Bydd yn gwybod—rwyf wedi crybwyll yn y Siambr hon o’r blaen—fy mod i wedi clywed tystiolaeth gredadwy gan weithwyr o Wlad Pwyl, eu bod yn derbyn yr isafswm cyflog yn benodol, ond ceir dulliau eraill a ddefnyddir er mwyn didynnu arian oddi wrthynt, fel bondiau afrealistig pan fyddant yn mynd i mewn i lety—bondiau rhag difrod, a phan fyddant yn cyrraedd yno, maen nhw’n canfod fod y llety yn ddodrefn gwyn, carpedi gwyn, waliau gwyn, ac mae'n anodd iawn ei gadw’n gwbl drefnus. Gwnaed y pwynt gennym, y ddau ohonom ni, ddoe, bod llawer iawn o waith i'w wneud i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn cael eu dwyn i gyfrif, y cyflogwyr diegwyddor hyn, oherwydd mae yn llygad ei lle—maen nhw’n camfanteisio ar weithwyr mudol ac yn creu safonau is, o ganlyniad, i weithwyr yn y DU gyfan. Yn anffodus, nid oes gan lawer o'r bobl sy'n rhan o Lywodraeth y DU ar hyn o bryd ddiddordeb yn hawliau gweithwyr mudol na gweithwyr Prydain.
Rydych chi'n iawn, Brif Weinidog, ceir nifer o ffyrdd y gall cyflogwyr diegwyddor gamfanteisio ar weithwyr, ond mae’r cwestiwn hwn o'r isafswm cyflog yn un allweddol. Y tro diwethaf i mi edrych, dim ond chwech o bobl yr oedd Cyllid a Thollau EM yn eu cyflogi i orfodi'r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae’n amlwg nad yw’n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Prin fu’r erlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd hynny’n wir o dan y Llywodraeth Lafur flaenorol, hefyd, mae'n deg i ddweud. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio yn y termau cryfaf posibl y gwleidyddion hynny sy'n ceisio adrodd chwedlau am y rhesymau y tu ôl i’r wasgfa ar gyflogau pobl, oherwydd tra ein bod ni’n pwyntio at fewnfudwyr yn hytrach na diffyg gweithredu’r Llywodraeth tuag at gyflogwyr diegwyddor, rydym ni’n gadael i’r tramgwyddwyr go iawn ddianc? Ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i'r Cynulliad hwn heddiw i’n hysbysu pa adnoddau Llywodraeth Cymru y byddwch chi’n gallu eu nodi i roi terfyn ar y camfanteisio hwn fel y gall gorfodi ac, os oes angen, enwi a chywilyddio cyflogwyr diegwyddor, ddigwydd?
Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gweithio'n agos â’r cymunedau hynny sy’n cael eu heffeithio fel nad ydynt yn ofni dod ymlaen i gynnig eu tystiolaeth. Yn aml iawn, bydd hynny’n cael ei wneud gyda’r addewid o anhysbysrwydd, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ceisio bwrw ymlaen ag ef. Yn ddiweddar, gorffennais ddarllen hunangofiant Dennis Skinner. Nawr, nid yw fel rheol yn wleidydd y byddai gennyf lawer iawn yn gyffredin ag ef, efallai, mewn sawl ffordd, ond roedd yr hyn a ddywedodd am weithwyr o Wlad Pwyl yn y pyllau ar ôl y rhyfel yn ddiddorol. Dywedodd nad oedd unrhyw ddrwgdeimlad tuag atynt gan eu bod yn aelodau o undeb llafur. Ni ystyriwyd eu bod yn tandorri cyflogau mewn unrhyw ffordd. Ystyriwyd eu bod yn yr un sefyllfa a bod ganddynt yr un amddiffyniadau â gweithwyr yn y DU, a dyna'n union y mae angen i ni ddychwelyd ato. Mae gormod o bobl yn cael cyflogau isel, yn gyntaf oherwydd cyni cyllidol, ac yn ail oherwydd nad oes ganddynt gefnogaeth undeb llafur. Ac rydym ni’n gwybod bod gweithleoedd sy'n perthyn i undeb yn sicrhau gwell telerau ac amodau i’r bobl hynny sy'n gweithio yn y gweithleoedd hynny. Dyna pam mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr, cymaint ag y gallwn ni eu cael i’r pwynt hwnnw, yn cael ei gynnwys trwy aelodaeth o undeb llafur, o ble bynnag yn y byd y maen nhw’n dod.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Dydd Sadwrn yw Diwrnod Canser y Byd, rhywbeth y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael eu cyffwrdd ganddo, a gwn eich bod chi a fy nheulu i wedi cael profiad anffodus lle’r ydym ni wedi colli rhywun annwyl i ganser. Bydd un o bob dau ohonom ni yn cael profiad o ganser yn ein bywydau yn y dyfodol, i lawr o un o bob tri. Felly, mae'r tebygolrwydd o bobl yn cael canser yn cynyddu bob dydd a phob wythnos. Yn anffodus, ni fodlonwyd targed amser 62 diwrnod Llywodraeth Cymru ers 2008. Wedi dweud hynny, mae llawer o gynnydd da hefyd yn cael ei wneud mewn gwasanaethau canser ledled Cymru. Beth yw eich golwg gyffredinol ar y ddarpariaeth o wasanaethau canser yma yng Nghymru, o gofio bod gennym ni’r diwrnod canser cenedlaethol hwn i edrych ymlaen ato ar y penwythnos i fyfyrio ar ein sefyllfa, ac y bydd un o bob dau ohonom ni’n cael profiad o ganser yn ystod ein hoes?
Rwy’n datgan buddiant yn y fan yma. Fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ac fel sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o fuddiannau, mae fy ngwraig yn cael ei chyflogi gan Macmillan. Yr hyn sy'n amlwg dros y 10 mlynedd nesaf yw bod dau ddatblygiad y bydd pobl yn eu gweld os byddant yn cael diagnosis o ganser. Yn gyntaf, mae mwy a mwy o bobl yn 'byw gyda chanser'—dyna'r ymadrodd a ddefnyddir—canserau efallai na ellir eu gwella yn yr ystyr arferol o bum mlynedd yn rhydd o ganser, ond sy’n galluogi pobl i fyw bywyd normal ac nad yw o reidrwydd yn byrhau eu bywydau o ganlyniad, gyda'r lefel gywir o driniaeth. Yn ail, mae cynnydd aruthrol yn cael ei wneud—ac rydym ni’n ffodus fod gennym y ganolfan geneteg canser yng Nghaerdydd—i ddatblygu triniaethau sydd wedi'u teilwra i anghenion genetig yr unigolyn. Mae triniaeth canser wedi bod, ers blynyddoedd maith, yn offeryn di-fin braidd. Rhoddwyd yr un math o driniaethau i bobl dros y blynyddoedd. Roedd yn debycach i brofi a methu. Rydym ni ar flaen y gad o ran datblygiad geneteg a thriniaeth canser yng Nghymru ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod mwy a mwy o bobl yn cael y cyfle i gael gwared ar ganser yn ystod eu bywydau, ond hefyd yn gallu byw gyda chanser gan fod y cymorth, fferyllol a moesol, ganddyn nhw i wneud hynny.
Rydych chi’n iawn i dynnu sylw at yr agweddau cadarnhaol ar driniaethau canser a'r datblygiadau a'r ffordd y mae Cymru ar flaen y gad yn rhai o'r meysydd hyn. Mae'r banc canser yn Ysbyty Felindre yn enghraifft dda iawn arall o wyddoniaeth a thechnoleg arloesol. Mae gan eich Llywodraeth dargedau o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir datganiad y prynhawn yma, 'Tuag at 2030', gan yr Ysgrifennydd addysg. Mae gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU nod, sef cynyddu'r cyfraddau goroesi yn dilyn canser yr ysgyfaint. Ni waeth ble’r ydych chi’n byw ar draws y Deyrnas Unedig, mae'r cyfraddau goroesi yn wael iawn yn wir: 16 y cant mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, 5 y cant neu 6 y cant yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddwch chi’n cytuno â mi fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wella yn daer. Mae ganddyn nhw darged i wella'r gyfradd goroesi yn sgil canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd i 25 y cant erbyn 2025. Rwyf wedi tynnu sylw at nodau eraill y mae eich Llywodraeth wedi eu pennu. A fyddwch chi’n barod i bennu hwnnw fel nod i’ch Llywodraeth weithio tuag ato, yn sicr hyd at 2021, ac i’w gyrraedd, gobeithio?
Ydw, rwy'n credu bod hynny'n rhesymol. Rydym ni eisiau gweld mwy o bobl yn byw gyda chanser yr ysgyfaint ac, yn y pen draw, yn ei oroesi. Tua 8 y cant neu 9 y cant yw’r cyfraddau goroesi, os cofiaf yn iawn. Maen nhw mewn ffigurau sengl ac maen nhw’n isel. Mae llawer ohono oherwydd bod diagnosis cynnar mor hanfodol i unrhyw fath o ganser ac nid yw'r symptomau yn amlygu eu hunain yn aml oni bai fod pobl yn achosion acíwt yn yr ysbytai. Rwy’n credu bod ein meddygon teulu yn atgyfeirio pobl fel y dylent. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod hynny'n digwydd a bod pobl yn derbyn y sylw y mae ei angen arnynt. Pan fo gan bobl fathau cymhleth o ganser, wrth gwrs, tiwmorau lluosog weithiau, yna mae'n cymryd cryn amser i ddechrau cwrs o driniaeth gan fod yn rhaid cynllunio’r driniaeth honno yn y ffordd fwyaf effeithiol iddyn nhw. Ond nid oes gennyf unrhyw anhawster, wrth gwrs, gyda’r bwriad o gefnogi menter sydd eisiau lleihau nifer y marwolaethau trwy ganser yr ysgyfaint yn y ffordd y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei disgrifio.
Diolch i chi am yr ymrwymiad yna, Brif Weinidog, oherwydd os bydd yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei wneud, mae’n bosibl y gallai achub 600 o fywydau—pobl sy'n marw cyn pryd trwy ganser yr ysgyfaint yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn y pen draw, mae hwnnw'n nod, yn sicr, y dylai pob un ohonom geisio ei gyrraedd. Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad yma ar gyfer Cancer Patient Voices ynghylch gwasanaethau canser, ac yn y digwyddiad hwnnw, amlygodd Tom Crosby, sef arweinydd clinigol gwasanaethau canser yma yng Nghymru, bwysigrwydd cyflwyno cynllun canser i fod yn sail i ddatblygiad canser mewn gwasanaethau—am ddod ag oncolegwyr i Gymru a datblygu gwasanaethau cynaliadwy hirdymor. Os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed hwnnw o gynnydd o hyd at 25 y cant i gyfraddau goroesi erbyn 2025, ac os ydym ni eisiau bod o ddifrif am fynd ar y trywydd iawn nawr, mae angen i ni gyflwyno’r cynllun hwnnw. Pan fydd pobl fel Tom Crosby yn nodi hynny fel angen, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno bod angen i'r Llywodraeth wrando arno a gwrando ar eraill sy'n dweud mai dyna sy'n ofynnol i fwrw ymlaen â’r strategaeth. Yn wir, nododd Macmillan, a nodwyd gennych fel buddiant Aelod, dim ond yr wythnos diwethaf bod angen gwelliant sylweddol iawn i’r ddarpariaeth o wasanaethau i gleifion yn 2017. A wnewch chi ymrwymo i gyflwyno cynllun canser tebyg i’r hyn y mae Tom Crosby wedi ei nodi ac, yn wir, gwelliant i wasanaethau y mae Macmillan wedi galw amdano yn 2017?
Rwy’n siŵr y bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod bod y rhain yn faterion a godir yn gyson yn y tŷ yr wyf yn byw ynddo, ac mae'r pwyntiau’n cael eu gwneud yn gryf iawn, a hynny'n briodol. Byddwn yn gwrando, wrth gwrs, ar y rhai sy'n awgrymu gwahanol ffyrdd y gellir ymdrin â chanser. Mae gennym ni ein cynllun cyflawni ar ganser, wrth gwrs. Rydym ni eisiau sicrhau bod gennym ni’r lefel gywir o staff meddygol yng Nghymru; dyna pam mae gennym ni ein hymgyrch recriwtio a lansiwyd gennym y llynedd. Ac, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cymorth i bobl sy'n cael diagnosis. Gall y sioc o gael diagnosis o ganser gael ei ddwysáu’n aml gan yr angen am driniaeth, arosiadau yn yr ysbyty, yr ergyd i incwm rhywun y mae hynny’n ei chael, yr ergyd i hyder unigolyn y mae hynny’n ei chael, ac felly mae'n gwestiwn hefyd o sicrhau bod gan bobl gymorth y tu allan. Rwyf wedi gweld, a bydd yntau wedi gweld enghreifftiau tebyg hefyd rwy’n siŵr, pobl sydd, oherwydd eu bod wedi cael cymorth a chan eu bod wedi cadw eu hysbryd yn y lle iawn a’u meddyliau yn y lle iawn, wedi goroesi canser, tra bod pobl eraill sydd wedi colli eu hysbryd nad ydynt yn goroesi, ac rwyf wedi gweld hynny. Felly, mae'n hynod o bwysig, er ei fod yn gwneud y pwynt bod gennym ni’r lefel briodol o staff meddygol i ddarparu’r triniaethau, ein bod ni hefyd yn gallu sicrhau bod gan bobl y cymorth mwyaf cynhwysfawr a chyfannol o'u cwmpas er mwyn eu helpu i frwydro’r clefyd hefyd.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod y Ford Motor Company wedi canslo buddsoddiad arfaethedig o £1.6 biliwn ym Mecsico yn ddiweddar, ac wedi penderfynu yn hytrach cynyddu buddsoddiad yn ei ffatri ym Michigan o $700 miliwn. Mae hyn yn rhannol, maen nhw’n dweud, er cefnogaeth i bolisi gweinyddiaeth Trump. Mae un fil, wyth gant a phum deg o swyddi yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar y cwmni hwnnw, er gwaethaf ei benderfyniad i ostwng buddsoddiad arfaethedig gan bron i £100 miliwn fis Medi diwethaf. A yw'r Prif Weinidog yn credu bod y swyddi hynny yn cael eu gwneud yn fwy diogel gan ei alwad sarhaus i ganslo'r gwahoddiad arfaethedig i'r Arlywydd Trump i wneud ymweliad gwladwriaeth â’r Deyrnas Unedig?
Os yw'n dymuno bod—. A gaf i ei atgoffa bod y Ford Motor Company wedi condemnio sylwadau Donald Trump dros y penwythnos? Efallai nad yw wedi gweld hynny, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Rydym ni i gyd yn gweld yr anhrefn a ddaeth o ganlyniad yn America. Mater iddo ef yw bod yn eiriolwr ar ran Llywodraeth yr Unol Daleithiau, nid i mi. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw mai’r bygythiad mwyaf i ffatri injans Ford yw'r posibilrwydd o rwystr rhyngddi hi a'i hunig gwsmer yn yr Almaen. Mae'n allforio pob un injan y mae’n ei wneud. Os oes rhwystrau ar waith rhwng y ffatri injans honno a'r Almaen, bydd Ford yn cael eu temtio dros y blynyddoedd i symud eu gwaith cynhyrchu i Craiova yn Rwmania neu i ffatrïoedd eraill yn Ewrop. Hoffwn i Ford gael chwarae teg o’i gymharu â’r ffatrïoedd eraill hynny, ac nid cael ei roi mewn sefyllfa o wendid.
Fy mhwynt i yw pwysigrwydd perthynas fasnach ffyniannus barhaus â'r Unol Daleithiau, a fydd, i raddau, yn dibynnu ar fod â pherthynas gadarnhaol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Nawr, rwy’n sylweddoli y bydd gwahanol safbwyntiau o amgylch y Siambr ar bolisïau domestig Llywodraeth yr Unol Daleithiau ac, yn wir, safbwyntiau amlwg yr Arlywydd Trump ar fasnach y byd. Ond o ystyried mai’r Unol Daleithiau yw partner masnachu cenedl unigol mwyaf Cymru—allforiwyd gwerth £2,664 miliwn o allforion gennym i'r wlad honno hyd at Fehefin 2016; mae hynny’n 22 y cant o’r holl allforion o Gymru—onid yw’n hanfodol bwysig y dylem ni fod mor gadarnhaol tuag at yr Arlywydd Trump yn ein cysylltiadau rhyngwladol, ac y dylem felly groesawu ymweliad gwladwriaeth ganddo yn ddiweddarach eleni?
Yn gyntaf oll, mae'n iawn ein bod ni’n ymgysylltu â Llywodraeth yr Unol Daleithiau; byddaf yn America ddiwedd mis nesaf, gan fy mod i yn Capitol Hill yn cynnal derbyniad, gan weithio gyda chawcws aelodau Cyngres Cymru hefyd, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond Theresa May ei hun ddywedodd y dylem ni siarad yn blaen â ffrindiau; nid yw wedi gwneud hynny. Nid yw wedi gwneud hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hynod bwysig bod y pwyntiau hyn yn cael eu gwneud. Yr ymadrodd yr wyf i wedi ei ddefnyddio yw fy mod i’n credu ei bod hi’n anodd iawn dychmygu ymweliad gwladwriaeth llwyddiannus ar hyn o bryd, o ystyried yr holl ddadlau. Rwyf hefyd yn synnu at amseriad hyn. Ni chafodd Bill Clinton ymweliad gwladwriaeth erioed, nac, hyd y gwn i, George Bush, na Ronald Reagan ychwaith. Cafodd dau Arlywydd arall ymweliad gwladwriaeth, ond o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw ddod yn Arlywydd. Felly, mae'r amseru yn rhyfedd, mae’n rhaid i mi ddweud. Nid wyf yn beirniadu Theresa May am geisio ffurfio cysylltiadau â Llywodraeth yr Unol Daleithiau ni waeth pwy sydd mewn grym; dyna natur diplomyddiaeth ryngwladol. Ond mae hefyd yn golygu, os ydym ni wir am fod, fel petai, yn feirniaid cyfeillgar—os gallaf ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw—o Lywodraeth yr Unol Daleithiau, yna does bosib na ddylai Llywodraeth Prydain ymatal rhag gwneud hynny.
Mae Theresa May, wrth gwrs, wedi rhoi beirniadaeth gyfeillgar i’r Arlywydd Trump eisoes mewn gwahanol ffyrdd, ac nid wyf yn gwrthwynebu bod yn onest gyda'n cynghreiriaid, ond mae gwahaniaeth mewn diplomyddiaeth rhwng beirniadaeth onest a roddir mewn ffordd gwrtais a phreifat a'r math o ddiplomyddiaeth megaffon sy’n ymwneud mwy â gorchest ac arddangos rhinweddau, yn y wlad hon, ar gyfer mantais wleidyddol gartref.
Rwy'n credu iddo eistedd i lawr pan glywodd y geiriau 'Nigel Farage' yn cael eu hynganu yn y Siambr—meistr diplomyddiaeth megaffon a rhywun sy'n gynrychiolydd Donald Trump ar y ddaear ar hyn o bryd. O’m safbwynt i, mae’r geiriau yr wyf i wedi eu dewis, rwy’n credu, wedi bod yn briodol ac rwy’n meddwl eu bod yn amlwg i'r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain. Fel y dywedais ddoe, os bydd amgylchiadau'n newid, mae’n bosibl y gallai’r amgylchiadau yn ymwneud â’r ymweliad newid hefyd, er, o ystyried digwyddiadau’r ychydig ddiwrnodau diwethaf—wel, gall yr Aelodau wneud eu penderfyniadau eu hunain am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Nid oes gennym ni unrhyw eglurder gwirioneddol o hyd o ran yr hyn y mae'n ei olygu, hyd yn oed i ddeiliaid pasbort Prydain, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Boris Johnson ddoe. Rwy'n meddwl bod problemau i’r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf yw: pryd oedd hi’n gwybod am hyn? Os mai dydd Gwener oedd hynny, a wnaeth hi gyflwyno sylwadau? Pryd oedd hi'n gwybod am yr amodau a oedd ynghlwm wrth y gorchymyn gweithredol ac, os felly, a wnaeth hi gyflwyno sylwadau ar ran dinasyddion Prydain a deiliaid pasbort Prydain? Pam, pan gafodd ei holi am y gorchymyn, mai’r cwbl a ddywedodd oedd, 'Wel, mater i'r Unol Daleithiau yw hwn'? Pe byddai wedi bod yn unrhyw wlad arall, ni fyddai, yn fy marn i, wedi rhoi’r ymateb hwnnw. Pam y gwnaeth hi gymryd cyhyd i Boris Johnson fynd ar y ffôn i egluro'r sefyllfa, er ei bod hi’n ymddangos nad yw mor eglur ag y mae wedi ei awgrymu yn y Senedd? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau, rwy’n credu, y mae’n rhaid i’r Prif Weinidog eu hateb. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni gael perthynas gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Wrth gwrs y byddwn ni’n parhau â'n perthynas â busnesau’r Unol Daleithiau sy'n buddsoddi yng Nghymru. Mae Cymru'n agored i fusnes yr Unol Daleithiau, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem ni ddweud dim am bolisïau sy'n cael eu rhoi ar waith yr ydym ni’n anghytuno â nhw. Nid ydym wedi gwneud hynny gyda gwledydd fel Tsieina, nid ydym wedi gwneud hynny gyda gwledydd fel Rwsia. Mae'n iawn, felly, y dylem ni hefyd fynegi ein barn pan fyddwn yn anghytuno â rhywbeth y mae'r Unol Daleithiau yn ei wneud, yn hytrach na bod yn dawel ac eistedd yn y gornel. Nid dyna, yn fy marn i, yw'r ffordd iawn i’r DU gynnal ei busnes.