<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n credu bod hynny'n rhesymol. Rydym ni eisiau gweld mwy o bobl yn byw gyda chanser yr ysgyfaint ac, yn y pen draw, yn ei oroesi. Tua 8 y cant neu 9 y cant yw’r cyfraddau goroesi, os cofiaf yn iawn. Maen nhw mewn ffigurau sengl ac maen nhw’n isel. Mae llawer ohono oherwydd bod diagnosis cynnar mor hanfodol i unrhyw fath o ganser ac nid yw'r symptomau yn amlygu eu hunain yn aml oni bai fod pobl yn achosion acíwt yn yr ysbytai. Rwy’n credu bod ein meddygon teulu yn atgyfeirio pobl fel y dylent. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod hynny'n digwydd a bod pobl yn derbyn y sylw y mae ei angen arnynt. Pan fo gan bobl fathau cymhleth o ganser, wrth gwrs, tiwmorau lluosog weithiau, yna mae'n cymryd cryn amser i ddechrau cwrs o driniaeth gan fod yn rhaid cynllunio’r driniaeth honno yn y ffordd fwyaf effeithiol iddyn nhw. Ond nid oes gennyf unrhyw anhawster, wrth gwrs, gyda’r bwriad o gefnogi menter sydd eisiau lleihau nifer y marwolaethau trwy ganser yr ysgyfaint yn y ffordd y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei disgrifio.