Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 31 Ionawr 2017.
Fy mhwynt i yw pwysigrwydd perthynas fasnach ffyniannus barhaus â'r Unol Daleithiau, a fydd, i raddau, yn dibynnu ar fod â pherthynas gadarnhaol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Nawr, rwy’n sylweddoli y bydd gwahanol safbwyntiau o amgylch y Siambr ar bolisïau domestig Llywodraeth yr Unol Daleithiau ac, yn wir, safbwyntiau amlwg yr Arlywydd Trump ar fasnach y byd. Ond o ystyried mai’r Unol Daleithiau yw partner masnachu cenedl unigol mwyaf Cymru—allforiwyd gwerth £2,664 miliwn o allforion gennym i'r wlad honno hyd at Fehefin 2016; mae hynny’n 22 y cant o’r holl allforion o Gymru—onid yw’n hanfodol bwysig y dylem ni fod mor gadarnhaol tuag at yr Arlywydd Trump yn ein cysylltiadau rhyngwladol, ac y dylem felly groesawu ymweliad gwladwriaeth ganddo yn ddiweddarach eleni?