<p>Cynllun Diwydiannol Llywodraeth y DU</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:03, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, bydd y cynllun diwydiannol yn effeithio ar faterion datganoledig mewn rhyw ffordd, ond ni fyddwn yn gwybod hynny’n union tan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun diwydiannol ar gyfer Cymru ei hun. Mewn ymateb i gwestiwn gan fy ffrind yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yr wythnos diwethaf, wfftiwyd unrhyw angen am gynllun diwydiannol brys i Gymru gan Ysgrifennydd yr economi, gyda rhai’n awgrymu y gallai fod yn rhaid i ni aros tan ddiwedd yr haf am gynllun economaidd i Gymru, heb sôn am gynllun diwydiannol. Pryd wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r gorau i chwarae mig gyda ffyniant y wlad hon yn y dyfodol?