Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch i chi am hynna. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn ei groesawu—chi, fi ac Aelodau Cynulliad eraill yn y Siambr hon. Yr hyn nad oes ei angen arnom, wrth gwrs, yw mater y drwydded forol yn atal unrhyw gynnydd. O gofio i mi godi’r oedi gyda'r drwydded forol gyda chi ym mis Medi 2015, pa mor aml y mae eich Llywodraeth wedi mynd ar drywydd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno’r drwydded honno yn y 16 mis diwethaf, a pha reswm mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei roi i chi am ei adroddiad hwyr iawn ar yr effaith ar rywogaethau, a fydd, yn ôl pob tebyg, yn llywio’r penderfyniad?