<p>Adolygiad Hendry</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Sefydliad hyd braich yw Cyfoeth Naturiol Cymru, a cheir cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ei ddweud yn briodol wrtho pan fydd yn gwneud penderfyniad ar gais am drwydded forol, ond fe ddywedaf hyn: mae angen gwneud penderfyniad ar y cais cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yn y Siambr hon bwysigrwydd y morlyn llanw, hefyd, o ran swyddi. Mae angen i ni hefyd weld, wrth gwrs, ymrwymiad cadarn nawr gan Lywodraeth y DU o ran y pris streic er mwyn sicrhau bod y prosiect hynod gwerth chweil hwn yn mynd yn ei flaen.