Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 31 Ionawr 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y rhybudd o’i gwestiwn atodol? Nid yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi cyfarfod â Charles Hendry yr wythnos diwethaf, ac mae swyddogion yn sicr mewn cysylltiad agos â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Whitehall.