<p>Morlyn Llanw Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, ac rydych chi wedi gwneud hynny’n eglur dros ben. Mae hwn yn brosiect sydd nid yn unig yn darparu ynni gwyrdd y tu hwnt i'n hoes ni ein hunain, nad yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi arfer ei ddarogan ym myd gwleidyddiaeth, ond dyna'r gwirionedd, ond mae hefyd yn brosiect sydd â'r potensial i greu o leiaf 1,300 o swyddi, yn enwedig yn ardal Castell-nedd Port Talbot, o ran cynnal a chadw a gweithgynhyrchu’r offer sydd ei angen i gynhyrchu'r ynni. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle yr ymdrinnir â mater y drwydded forol, lle mae'r pris streic yn cael ei gytuno ac y gallwn fwrw ymlaen â phrosiect na all ond bod o fudd i bobl Cymru.