<p>Bechgyn Bevin</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:18, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am hynna, ac fe gysylltodd fy etholwr Mr William Beer o Lanbradach â mi yn ddiweddar. Mae’n 91 oed eleni ac roedd yn fachgen Bevin yn ystod yr ail ryfel byd. Pan gafodd y rhaglen bechgyn Bevin ei dirwyn i ben ym 1948, ni chawsant unrhyw fedalau ac aeth eu hymdrechion yn ddigydnabod hyd at ddathliadau hanner canmlwyddiant Diwrnod VE ym mis Mai 1995. Ym mis Mehefin 2007, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai rhai a fu’n Fechgyn Bevin yn derbyn bathodyn cyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth. Rwy'n teimlo nad yw hynny'n ddigon o hyd. Rwyf yn mynd i ysgrifennu at Gymdeithas Bechgyn Bevin i ofyn iddyn nhw gysylltu â’m hetholwr, ond, yn y cyfamser, a wnaiff y Prif Weinidog dalu teyrnged i Mr Beer a phobl debyg iddo, a chydnabod ei gyfraniad at ddiogelwch ein gwlad yn ystod yn ail ryfel byd?