10. 8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:10 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 31 Ionawr 2017

Rydw i’n symud i’r cyfnod pleidleisio, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y ddadl rydym ni newydd ei chynnal, ac felly rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 28, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6217.

Rhif adran 211 NDM6217 Gwelliant 2

Ie: 23 ASau

Na: 28 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:11, 31 Ionawr 2017

Rydw i’n galw felly am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6217 Jane Hutt fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a

2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:11, 31 Ionawr 2017

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 52, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6217 fel y diwygiwyd.

Rhif adran 212 NDM6217 Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016

Ie: 52 ASau

Absennol: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.