Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch i chi am eich ymateb ar hynna, Brif Weinidog, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am eich condemniad parod o'r camau cywilyddus a gymerwyd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau—camau sydd yn groes i gonfensiwn Genefa, cyfraith ryngwladol, ac yn ôl pob tebyg, cyfansoddiad yr Unol Daleithiau? Mewn cyferbyniad eglur, mae condemniad Prif Weinidog Prydain wedi bod yn araf i ddod, a chrintachlyd oedd hwnnw ar y gorau. Er gwaethaf yr effaith y gall y gorchymyn gweithredol ei gael ar ddinasyddion Prydain, ei hymateb cyntaf hi oedd mai mater i UDA ac i Lywodraeth yr Unol Daleithiau yw ei pholisi mewnfudo. Mae'n amlwg nad arweiniodd ei pherthynas arbennig gyda'r Arlywydd at unrhyw ragrybudd arbennig ganddo ef am yr hyn a oedd i ddod.
Mae Donald Trump yn ddyn sy'n teimlo ei bod yn iawn iddo watwar y rhai hynny sydd ag anableddau, mae’n un sy’n casáu menywod yn y modd gwaethaf un ac mae’n dadlau dros artaith, ac mae wedi methu â chyfiawnhau ei hun ym mhob achos. Mae ei ymgais i gyfiawnhau’r polisi hwn hefyd wedi bod yr un mor chwerthinllyd, pan ddywedodd,
Er mwyn eglurder, nid gwahardd Mwslimiaid yw hyn ... Nid yw hyn yn ymwneud â chrefydd—mae’n ymwneud â therfysgaeth a chadw ein gwlad yn ddiogel.
Wel, os yw Donald Trump yn awyddus i gadw ei wlad yn ddiogel, efallai y dylai wneud rhywbeth am reoli gynnau, oherwydd, a dweud y gwir, mae Americanwyr mewn mwy o berygl oddi wrth ei gilydd nag oddi wrth unrhyw un o blith unrhyw un o'r saith gwlad y mae eu dinasyddion wedi eu heffeithio gan y gwaharddiad hwn. Ni ellir enwi yr un dinesydd o America sydd wedi ei ladd mewn ymosodiad terfysgol gan neb o unrhyw un o'r gwledydd hyn.
Ond, fel y nodwyd gennych, Brif Weinidog, nid mater yn unig o fod yn achos pryder a gofid i gymunedau Mwslimaidd gan y gwaharddiad teithio 90 diwrnod yw hyn, mae'r gorchymyn gweithredol hefyd yn gosod gwaharddiad ar raglen ffoaduriaid yr Unol Daleithiau am 120 diwrnod ac yn gosod gwaharddiad amhenodol ar ffoaduriaid o Syria. Mae gorchymyn gweithredol Trump, a ddaeth ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, o bob diwrnod, yn ddigyfiawnhad, yn ddilornus o’r ddyletswydd foesol sydd arnom i gyd i helpu ffoaduriaid, ac, fel yr ydym wedi ei weld eisoes yr wythnos hon, dim ond gwaethygu anoddefgarwch crefyddol a hiliol a wnaiff. Mae ef wedi ceisio pardduo crefydd gyfan, a chaf fy atgoffa am sut y gall gweithredoedd o’r fath arwain at erchyllterau a hil-laddiad hyd yn oed. Nid dechrau gyda’r siambrau nwy a wnaeth yr holocost. Fe ddechreuodd gyda phardduo crefyddwyr ac anoddefgarwch—