Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 31 Ionawr 2017.
Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ailddatgan ei safbwynt, ac ychwanegu ei lais at y rhai hynny sy'n galw am amddifadu Donald Trump o’r anrhydedd o gael ymweliad gwladol â’r DU ar hyn o bryd, ac a fydd yn galw ar y Prif Weinidog i ddangos yr un asgwrn cefn ag arweinyddion eraill y byd gan gondemnio gweithredoedd Trump yn ddiamwys a chymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i’w ddarbwyllo i wrthdroi'r penderfyniad hwn?