Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 31 Ionawr 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac a gaf i ailadrodd ei diolch hi i'r Athro Hazelkorn am ei gwaith, wrth gwrs, wrth arwain yr adolygiad? Mae Plaid Cymru yn cefnogi byrdwn cyffredinol eich datganiad y prynhawn yma ac rydym yn ymrwymedig, wrth gwrs, i weithio yn ysbryd Hazelkorn i hyrwyddo tegwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth wastraffus sydd wedi dod i'r amlwg ym maes addysg ôl 16 yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, wrth gwrs, i ddatblygu llwybrau dysgu cliriach a mwy hyblyg ar gyfer addysg ôl 16.
Felly, dim ond ambell i gwestiwn, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r manylion, efallai, yn fwy na dim, er y byddwn i’n dechrau drwy ofyn i chi egluro fy mod i’n iawn, rwy’n credu, wrth ddehongli eich datganiad fel arwydd clir y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati’n ddyfal i sicrhau, fel y dywed Hazelkorn, gwell cymysgedd o reoleiddio ac ariannu ar sail cystadleuaeth yn hytrach na system sydd wedi’i seilio ar alw yn y farchnad.
O ran yr awdurdod addysg drydyddol—ac mae'n rhaid i ni ddod i arfer ag acronymau newydd bob dydd yn y lle hwn—fel y gwyddoch, un o'r penderfyniadau allweddol y bydd angen eu gwneud yw beth fydd y sefyllfa mewn cysylltiad â chweched dosbarth yn y strwythur arfaethedig newydd hwn. Mae gennyf ddiddordeb yn eich syniadau cychwynnol o ran a ddylen nhw aros fel y maen nhw—yn rhan bwysig o'r system ysgol, yn destun arolygiadau Estyn, ac ati—neu a ydych chi’n eu hystyried erbyn hyn mewn gwirionedd yn dod yn rhan o ddarpariaeth ôl 16 o dan yr awdurdod addysg drydyddol newydd arfaethedig, os daw hwnnw i fodolaeth neu pan fydd hynny’n digwydd.
Yn yr un modd, wrth gwrs, rydym ni’n ymwybodol o’r estyniad arfaethedig i gylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg bellach, a'r Coleg Cymraeg bellach yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Beth fydd y drafodaeth honno o ran ei chysylltiad â'r awdurdod addysg drydyddol arfaethedig? Rydych chi’n dweud yn eich datganiad ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr yn y broses hon, ac rwy’n cytuno’n llwyr, ond oni fyddech chi’n cytuno bod angen i hynny fod yn beth parhaus, ac wrth ystyried, er enghraifft, bwrdd llywodraethu’r awdurdod addysg drydyddol, dylai aelodau staff a myfyrwyr gael cynrychiolaeth ar y bwrdd, fel y gall y lleisiau hynny barhau i gael eu clywed?
Ni cheir manylion penodol am amserlen yma, er fy mod i’n nodi’r cytundeb â chadeirydd CCAUC am gyfnod o dair blynedd ychwanegol—efallai y gallech chi roi syniad i ni o ba un a ydych chi felly’n disgwyl i’r broses hon ddod i ben o fewn y tair blynedd hynny.
Fe wnaethoch chi gyhoeddi dau adolygiad arall tuag at ddiwedd y datganiad. Mae'r adolygiad o weithgarwch arloesi ac ymchwil yn—yn amlwg cawsom ni’r adolygiad Diamond, a fyddai, y byddech chi’n meddwl, wedi gorgyffwrdd rhywfaint. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig am yr hyn yr ydych chi’n ei ddisgwyl gan adolygiad yr Athro Graeme Reid yn ychwanegol at yr adolygiad Diamond, a’r meddylfryd wrth wraidd gofyn am hynny. Ac yn olaf, ynglŷn â’r adolygiad arall yr ydych wedi’i gyhoeddi y prynhawn yma ynghylch sut yr ydym yn monitro a gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau: ai dyma eich cam cyntaf chi, efallai, wrth greu fersiwn Gymraeg o'r fframwaith rhagoriaeth addysgu? Neu ai dyma, o bosibl, eich cam cyntaf wrth fynd ati i wrthbrofi’r fframwaith addysg drydyddol yng Nghymru?