Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 31 Ionawr 2017.
Huw, rydych chi’n codi pwynt hanfodol bwysig ein bod yn gallu cael y strwythur gorau a'r cynllunio strategol gorau ar gyfer y cyfleoedd hyn, ond oni bai ein bod yn ymgysylltu'n llwyddiannus â phobl ifanc, darpar fyfyrwyr a dysgwyr o bob math, a'r bobl sy'n dylanwadu ar eu dewisiadau, ni fyddwn yn sylweddoli budd llawn hyn. Rydym ni i gyd yn euog o hyn. Mae ein plant, yn aml, yn garcharorion i’n profiad ein hunain. Felly, os yw mam a dad wedi ei wneud mewn ffordd arbennig, pa ffordd bynnag yw honno, os yw mam a dad wedi ei wneud yn y ffordd honno, dyna’r ffordd yr ydych chi’n credu y dylid ei wneud. Weithiau mae'n anodd torri'n rhydd o'ch profiad eich hun ac, weithiau, eich rhagfarnau eich hun ynghylch sut y dylai plant symud ymlaen.
Mae fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau â Gyrfa Cymru ynglŷn â gwneud yn siŵr bod plant a myfyrwyr yn cael y cyngor gyrfaoedd gorau posibl sy'n rhoi'r ystod ehangaf posibl o ddewisiadau a chyfleoedd iddyn nhw, beth bynnag fyddai hynny, a’i fod wedi’i seilio’n llwyr, nid ar fanteision i sefydliadau unigol, ond ar y manteision i’r myfyriwr penodol hwnnw, a’i anghenion. Os bydd angen i ni wneud mwy o ymchwil, ac mae angen i ni wneud mwy o waith ar hyn, yna rwy'n siwr bod y Gweinidog wedi eich clywed chi, ac nid oes ofn arnom wneud hynny.
Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf eisoes yn mynd i seremonïau gwobrwyo lle caiff amrywiaeth eang o gyflawniadau o bob math ei dathlu, boed hynny'n academaidd neu’n gymdeithasol —y plentyn sydd wedi cyfrannu at yr ysgol trwy ofalu am fyfyrwyr eraill, drwy eu hymrwymiad i geisio bod o gymorth i'r ysgol, yn ogystal â phobl sydd wedi dilyn cyrsiau gwahanol. Felly, rwy’n gweld hynny allan yna, ond mae'n dameidiog ac nid yw'n gyffredin, ac mae angen i ni ei wneud yn gyffredin. Ond rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau cadarnhaol iawn. Gwn am un dyn ifanc—mae ei fam yn ffrind i mi—a gafodd y dewis dros yr haf rhwng gradd peirianneg mewn prifysgol yng Nghymru neu brentisiaeth gyda chwmni peirianneg, ac mae ef wedi dewis y brentisiaeth, oherwydd ei fod yn ddigon call i wybod, yn y pen draw, y bydd y cwmni hwnnw yn talu am ei radd ar ei ran, ac mae e’n dymuno dysgu yn y swydd. Mae hwnnw’n ddewis cadarnhaol iawn iddo. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr eraill yn cael y cyfleoedd hynny a bod ganddyn nhw’r gallu i wneud y dewisiadau sydd orau ar eu cyfer nhw. Byddaf yn parhau i weithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes i sicrhau bod gennym system o gyngor ac arweiniad a fydd yn gwneud y mwyaf o'r newidiadau strwythurol yr ydym yn eu gwneud.