Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 31 Ionawr 2017.
Fel un sydd wedi bod yn ffodus iawn i allu cyfrannu at addysgu a llywodraethu ar draws y system am flynyddoedd lawer, a gaf i’n gyntaf longyfarch y Gweinidog ar ei dewrder? Mae’n hen bryd ein bod ni wedi cael Gweinidog sydd yn fodlon cymryd gafael yn y rhaniadau a’r gwahaniaethau a’r anghyfartaledd sydd wedi bod yn rhan o’r gyfundrefn ôl-16 o’r dechrau. Rwy’n ddiolchgar iddi am wneud hynny. Rwy’n falch ei bod hi wedi gallu manteisio ar waith athrylithgar Ellen Hazelkorn a’r bobl sydd yn dadlau dros bwysigrwydd cael cenhadaeth ddinesig mewn addysg, achos nid oes cenhadaeth arall i gael mewn addysg—rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn cytuno efo hynny.
Rwyf am ofyn un neu ddau o bethau iddi. A fyddai hi’n ystyried, er enghraifft, mai un ffordd o danseilio unrhyw wrthwynebiad a allai ddod o rai dinosoriaid yn rhannau o’r sector yma fyddai cyhoeddi Bil drafft? Hynny yw, yn hytrach na gwneud ymgynghoriad ac yna mynd ati i ddeddfu, ei bod hi’n gofyn i’r swyddogion—. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eistedd dros y ffordd imi, ac rydw i’n siŵr y byddem ni’n barod iawn i gynorthwyo mewn unrhyw broses o graffu ar Fil drafft—nid ein bod ni’n chwilio am waith, ond rydw i’n siŵr y byddem ni’n hapus i wneud rhywbeth fel yna, oherwydd mi fyddai’n rhoi cyfle wedyn i’r ymgynghoriad ac i’r paratoi ar gyfer deddfu ddigwydd ar yr un pryd.
A gaf i hefyd ddiolch iddi am barhau i ddefnyddio gwasanaeth David Allen? Dyma ddyn ardderchog, sydd wedi cyfrannu at brifysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Beth sy’n bwysig i’w gofio am David—rydw i’n siŵr y buasai’r Gweinidog yn cytuno—ydy ei fod yn parhau, fel rydym ni’n siarad, ar lywodraethwyr coleg addysg bellach Caerwysg, fel cyn-gofrestrydd y brifysgol, ac yn parhau gyda’i waith inni yng Nghymru, ac mae’n deall yn union beth ydy’r anghenion. Mae gen i, mae gen i ofn, syniadau radical, braidd, ynglŷn â’r angen i brif-ffrydio addysg ddwyieithog drwy’r system i gyd. Mae gen i syniadau hyd yn oed mwy ymosodol na ellir eu dychmygu ynglŷn â chael gwared â’r gyfundrefn chweched dosbarth, fel rydym ni wedi ei wneud yn Nwyfor Meirionnydd ers degawdau—ond diwrnod arall i drafod hynny, efallai.