Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn i Michelle Brown am ei chwestiynau. O ran yr argymhellion, rwyf wedi nodi fy mod i’n derbyn yr argymhellion. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y gwanwyn. I roi hyn ar waith, bydd angen i mi gyflwyno deddfwriaeth ac mae angen i hynny gyrraedd yr amserlen deddfwriaeth gyffredinol ar draws y Llywodraeth gyfan. Ond, fel y nodais yn gynharach, rwy'n obeithiol y gallwn wneud hynny, y broses gyfan hon—yr ymgynghoriad, y prosesau craffu priodol ar ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Bil fynd drwyddyn nhw yn y Siambr hon—yn ystod y cyfnod o dair blynedd.
Nid wyf i’n gyfrifol am weithredoedd y Gweinidogion blaenorol, ond dylwn i nodi mai Gweinidog blaenorol a gomisiynodd yr adroddiad hwn, ar ôl nodi’r angen i wneud cynnydd yn y maes hwn. Dylid nodi hefyd, nid ymgais debyg, ond gwnaethpwyd ymgais yn yr agenda hon yn nyddiau cynnar Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn anffodus nid oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i greu’r awdurdod hwn. Rwy’n cofio’r dyddiau hynny’n dda iawn, pan yr oeddem yn ei chael hi’n anodd creu yr un endid hwnnw oherwydd y diffyg gallu o fewn y Siambr hon i wneud y newidiadau yr oeddem yn awyddus i’w gwneud. Nawr, nid yw hynny’n rheswm dros beidio â gweithredu erbyn hyn. Mae gennym y pwerau. Fe ddywedasom, pan gawsom y pwerau hynny, y bydden nhw’n bwerau â phwrpas iddynt ac rwyf i'n defnyddio’r pwerau hynny at y diben o ddiwygio’r rhan benodol hon o addysg.
Parch cydradd—mae'n fater sydd wedi ein llethu. Fel yr ydym ni newydd glywed gan Huw Irranca-Davies, mae rhywfaint o hynny’n ddiwylliannol. Rydym ni’n euog o rywfaint o hynny ein hunain yn ein bywydau bob dydd a’r sgyrsiau yr ydym wedi eu cael gyda'n plant. Nod y system hon, fel yr eglurais i Paul Davies mewn ymateb i'w gwestiwn, yw creu strwythur sy'n hybu parch cydradd. Ond fe ddywedaf wrthych am un ffordd lle nad ydym yn hybu parch cydradd, sef drwy rannu plant 11 oed o ran a ydyn nhw’n gwneud cymwysterau galwedigaethol neu academaidd. Bydd y system hon yn galluogi plant i ddilyn y ddau lwybr, os mai dyna y maent yn dymuno ei wneud, er mwyn symud yn rhwydd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu yn seiliedig ar waith, rhwng addysg ymarferol a’r llwybrau mwy academaidd. Dyna holl bwrpas gallu dod â’r llwybrau hyn at ei gilydd, oherwydd nid oes dim—dim—sy'n hybu parch cydradd wrth ddweud wrth blentyn 11 oed, ‘Rwyt ti’n mynd un ffordd ac mae dy ffrind yn mynd y ffordd arall’, a rhannu'r plant hynny ar yr adeg honno.