Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno y rheoliadau yma. Rwy’n gofyn i Aelodau’r prynhawn yma i dderbyn y rheoliadau. Mi fydd rhai Aelodau, wrth gwrs, yn cofio y cawsom ni’r drafodaeth yma ar ddiwrnod olaf y Cynulliad a ddaeth i ben y llynedd, ac mi fydd Aelodau hefyd yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu gwrthod gan y Cynulliad bryd hynny. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn gwerthfawrogi fy mod i wedi cymryd rhywfaint o amser i ddarllen record y drafodaeth gawsom ni y prynhawn hwnnw, ac rwy’n bennaf wedi cymryd amser i ddarllen cyfraniadau Aled Roberts, Simon Thomas a Suzy Davies. Rwyf wedi darllen beth oedd y cyfraniadau ar y pryd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y rheoliadau yma yn ymateb i’r drafodaeth ac i’r bleidlais a gawsom ni y llynedd.
Ni fyddaf i’n fodlon, ac ni fyddai’r Llywodraeth yn cyflwyno’r rheoliadau heddiw, oni bai ein bod ni’n ffyddiog ein bod ni wedi ateb pryderon Aelodau’r Cynulliad a fynegwyd ym mis Mawrth a chyn hynny, ac ar ôl y bleidlais. Ers hynny, rydw i wedi trio trafod gydag Aelodau a chyrff gwahanol i ddeall pam y cawsan nhw eu gwrthod, ac rydw i wedi newid y rheoliadau o ganlyniad i’r trafodaethau yma.
Mae’r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ymateb i bwyntiau yr oedd Aelodau wedi eu codi, a gobeithio bod y newidiadau yn adlewyrchu barn y Cynulliad ar y pryd a barn y Cynulliad heddiw. Mae’r newidiadau rydw i wedi eu gwneud fel a ganlyn: rydym ni wedi rhoi’r hawl i fyfyrwyr i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; rydym wedi creu’r hawl i weld arwyddion ym mhob un adeilad prifysgol neu goleg yn y Gymraeg; rydym ni wedi creu hawl i fewnrwyd Gymraeg; ychwanegu canolfannau celfyddydol i’r safonau; ac rydym ni’n sicrhau y bydd gan fyfyrwyr hawl i diwtor personol sy’n siarad Cymraeg.
Ar y pwynt olaf, mi fuaswn i’n diolch yn fawr i Sian Gwenllian ac i Blaid Cymru am y drafodaeth a gawsom ni ar y pwnc yma. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfraniad mae Plaid Cymru wedi ei wneud, a Sian Gwenllian, yn ystod y drafodaethau yma. Mi fydd Aelodau yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu trafod yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu rai wythnosau yn ôl. Oherwydd y newidiadau rydym ni wedi eu gwneud, ac ar sail bod trafodaethau eang wedi bod ar y rheoliadau yma, rydw i’n gofyn i Aelodau heddiw i dderbyn y rheoliadau fel maen nhw wedi cael eu newid.
Wrth gwrs, rydw i hefyd yn ymrwymo i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau bod y drefn o osod safonau yn llai biwrocrataidd. Rwy’n awyddus i ddechrau casglu tystiolaeth a byddwn ni’n dechrau ar hynny drwy ymgysylltu â phartneriaid cyn cyhoeddi Papur Gwyn ac ymgynghori yn eang iawn dros yr haf. Mae ymgynghori a deddfu yn cymryd amser. Rwy’n awyddus ein bod ni’n dechrau’r broses mor fuan â phosibl.
Rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r drafodaeth y cawsom ni ac rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r pryderon rydym ni wedi’u clywed eisoes ar y rheoliadau yma. Ar sail hynny, rwy’n cynnig bod Aelodau yn derbyn y rheoliadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.