– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 31 Ionawr 2017.
Rydym yn symud ymlaen yn nawr at eitem 6, sef Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno y rheoliadau yma. Rwy’n gofyn i Aelodau’r prynhawn yma i dderbyn y rheoliadau. Mi fydd rhai Aelodau, wrth gwrs, yn cofio y cawsom ni’r drafodaeth yma ar ddiwrnod olaf y Cynulliad a ddaeth i ben y llynedd, ac mi fydd Aelodau hefyd yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu gwrthod gan y Cynulliad bryd hynny. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn gwerthfawrogi fy mod i wedi cymryd rhywfaint o amser i ddarllen record y drafodaeth gawsom ni y prynhawn hwnnw, ac rwy’n bennaf wedi cymryd amser i ddarllen cyfraniadau Aled Roberts, Simon Thomas a Suzy Davies. Rwyf wedi darllen beth oedd y cyfraniadau ar y pryd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y rheoliadau yma yn ymateb i’r drafodaeth ac i’r bleidlais a gawsom ni y llynedd.
Ni fyddaf i’n fodlon, ac ni fyddai’r Llywodraeth yn cyflwyno’r rheoliadau heddiw, oni bai ein bod ni’n ffyddiog ein bod ni wedi ateb pryderon Aelodau’r Cynulliad a fynegwyd ym mis Mawrth a chyn hynny, ac ar ôl y bleidlais. Ers hynny, rydw i wedi trio trafod gydag Aelodau a chyrff gwahanol i ddeall pam y cawsan nhw eu gwrthod, ac rydw i wedi newid y rheoliadau o ganlyniad i’r trafodaethau yma.
Mae’r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud yn ymateb i bwyntiau yr oedd Aelodau wedi eu codi, a gobeithio bod y newidiadau yn adlewyrchu barn y Cynulliad ar y pryd a barn y Cynulliad heddiw. Mae’r newidiadau rydw i wedi eu gwneud fel a ganlyn: rydym ni wedi rhoi’r hawl i fyfyrwyr i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; rydym wedi creu’r hawl i weld arwyddion ym mhob un adeilad prifysgol neu goleg yn y Gymraeg; rydym ni wedi creu hawl i fewnrwyd Gymraeg; ychwanegu canolfannau celfyddydol i’r safonau; ac rydym ni’n sicrhau y bydd gan fyfyrwyr hawl i diwtor personol sy’n siarad Cymraeg.
Ar y pwynt olaf, mi fuaswn i’n diolch yn fawr i Sian Gwenllian ac i Blaid Cymru am y drafodaeth a gawsom ni ar y pwnc yma. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfraniad mae Plaid Cymru wedi ei wneud, a Sian Gwenllian, yn ystod y drafodaethau yma. Mi fydd Aelodau yn gwybod bod y rheoliadau yma wedi cael eu trafod yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu rai wythnosau yn ôl. Oherwydd y newidiadau rydym ni wedi eu gwneud, ac ar sail bod trafodaethau eang wedi bod ar y rheoliadau yma, rydw i’n gofyn i Aelodau heddiw i dderbyn y rheoliadau fel maen nhw wedi cael eu newid.
Wrth gwrs, rydw i hefyd yn ymrwymo i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau bod y drefn o osod safonau yn llai biwrocrataidd. Rwy’n awyddus i ddechrau casglu tystiolaeth a byddwn ni’n dechrau ar hynny drwy ymgysylltu â phartneriaid cyn cyhoeddi Papur Gwyn ac ymgynghori yn eang iawn dros yr haf. Mae ymgynghori a deddfu yn cymryd amser. Rwy’n awyddus ein bod ni’n dechrau’r broses mor fuan â phosibl.
Rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r drafodaeth y cawsom ni ac rwy’n mawr obeithio fy mod i wedi ymateb i’r pryderon rydym ni wedi’u clywed eisoes ar y rheoliadau yma. Ar sail hynny, rwy’n cynnig bod Aelodau yn derbyn y rheoliadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins.
Diolch. Ar ôl inni glywed gan randdeiliaid am eu pryderon, ac o ystyried y ffaith bod y pedwerydd Cynulliad wedi gwrthod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), cytunodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylid ystyried y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 27.8 ac adrodd ein casgliadau i’r Cynulliad.
Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gosod, gwnaethom ysgrifennu at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at undebau myfyrwyr yng Nghymru a oedd wedi codi nifer o bryderon ynghylch y rheoliadau Rhif 3 blaenorol, cyn iddynt gael eu gwrthod gan y Cynulliad ym mis Mawrth eleni. Gan eu bod wedi cael cyfle i weld y rheoliadau newydd, gofynnwyd iddynt sôn yn fanwl am unrhyw bryderon a oedd ganddynt amdanynt. Ymatebodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Chymdeithas yr Iaith ac mae eu sylwadau ysgrifenedig yn yr atodiadau i’r adroddiad. Mae’n rhaid i mi bwysleisio ar y record yma heddiw fod tystiolaeth ysgrifenedig yr un mor gadarn â thystiolaeth ar lafar.
Wedyn, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar ar 18 Ionawr gan Fflur Elin, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, a gan Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r coleg yn gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Hefyd, cafodd y pwyllgor dystiolaeth lafar yn y cyfarfod gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn ogystal, cafwyd sylwadau gan Colegau Cymru, sef elusen sy’n ceisio gwella cyfleoedd ym maes addysg bellach. Yn anffodus, roedd yr amseru yn golygu nad oedd y pwyllgor yn gallu ystyried y sylwadau hyn, ond maent wedi cael eu cynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad hwn er hynny.
Roedd llawer o’r dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law yn ymwneud â’r broses gyffredinol ar gyfer gwneud y rheoliadau a natur y gyfundrefn safonau a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n deg dweud bod y pwyllgor, heb ffurfio barn benodol ar y mater, yn rhannu rhai o’r pryderon hynny. Yn sicr, i bob golwg, mae’r rheoliadau sydd ger ein bron yn ffordd letchwith a biwrocrataidd o geisio ymgorffori hawliau i ddefnyddio a derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fodd bynnag, gan roi o’r neilltu ein pryderon am y broses ehangach ar gyfer gwneud a chymeradwyo rheoliadau safonau a natur y rheoliadau hynny, roedd ein hystyriaeth—fel y ddadl hon heddiw—yn ymwneud â phwynt llawer mwy cyfyng, sef a ddylai’r rheoliadau penodol hyn gael eu cymeradwyo.
Wedi dweud hynny, mae’r pwyllgor wedi nodi bwriad y Gweinidog i adolygu’r ddeddfwriaeth sylfaenol y mae’r safonau’n cael eu gwneud o dani, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn ein barn ni, dyna’r man priodol ar gyfer ystyried materion ehangach o ran proses ac egwyddor, ac mae’n siŵr gen i y bydd y pwyllgor am ymgysylltu’n gadarnhaol â’r Gweinidog mewn unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo fe.
O ran y rheoliadau sydd ger ein bron, mae’n amlwg eu bod yn bell o fod yn berffaith o hyd a chydnabuwyd y gwendidau yn y rheoliadau gan bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Yn benodol, rwyf am dynnu sylw at y pryderon a fynegwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru am faterion yn ymwneud â’r diffiniad o les myfyrwyr a’r ddarpariaeth o lety.
Fodd bynnag, mae’r holl dystiolaeth a gawsom yn dangos bod y rheoliadau hyn, er gwaethaf eu diffygion, yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r prif bryderon a godwyd gan sefydliadau myfyrwyr a gan Aelodau yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y rheoliadau a wrthodwyd ym mis Mawrth y llynedd. Felly, er eu bod yn amherffaith, maent yn well na’r rheoliadau a wrthodwyd. Rydym hefyd yn falch o nodi bod y Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd yn adolygu’r rheoliadau yn barhaus ac y bydd yn cyflwyno rheoliadau diwygio os yw’n amlwg nad ydynt yn gweithio yn ymarferol yn unol â’r bwriad sydd ohoni. Yn amodol ar y sicrwydd hwn, mae’r pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r rheoliadau. Diolch yn fawr.
Rydym ni fel Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau ar eu newydd wedd. Rydych chi wedi sôn eu bod nhw wedi cael eu gwrthod gan y pedwerydd Cynulliad. Nid oeddwn i yma bryd hynny, ond mi oedden nhw’n rhai gwan, ac fe godwyd nifer o bryderon gan fudiadau myfyrwyr a Phlaid Cymru bryd hynny. Mi fuodd ychydig o oedi pellach cyn y Nadolig—wythnos yn unig, rwy’n prysuro i ddweud—ar gais Plaid Cymru, ar ôl cael gweld y rheoliadau drafft bryd hynny, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y cyfle hynny i roi barn. Rydw i’n falch iawn o weld ei fod o wedi gwrando, ac mae llawer o’r pryderon yr oeddem ni’n eu codi wedi cael eu diwygio ymhellach.
Mae’r safonau diwygiedig, felly, yn cynnwys llawer iawn o hawliau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg: yr hawl i fynegi dymuniad i gael llety cyfrwng Cymraeg; i gael defnyddio mewnrwyd myfyrwyr yn Gymraeg; yr hawl i gael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg; yr hawl i weld y Gymraeg ar bob arwydd ym mhrifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru; ac i ddefnyddio’r Gymraeg mewn canolfannau celfyddydau. I edrych ar un o’r rhain—yr hawl i diwtor personol Cymraeg—rydw i’n meddwl bod hwn yn allweddol i lwyddiant myfyriwr Cymraeg ei iaith neu ei hiaith mewn sefydliadau sy’n aml yn gallu bod yn llefydd reit estron i bobl ifanc sy’n cyrraedd yna am y tro cyntaf. Mae cael perthynas gyson yn y Gymraeg efo aelod o staff yn siŵr o wella profiad y myfyriwr, ac felly yn gwella ei gyflawniad addysgol o neu hi hefyd.
Mae’r safonau hyn yn gam ymlaen, felly—nid oes amheuaeth am hynny—er bod ychydig o fylchau’n parhau o hyd. Mi fyddwn ni yn eu cefnogi nhw, ond yn ategu galwad pwyllgor y Gymraeg wrth wneud hynny, ac yn diolch, gyda llaw, am y gwaith craffu manwl mae’r pwyllgor wedi’i wneud i gyfrannu at lle rydym heddiw. Mi rydym ni’n ategu galwad y pwyllgor bod angen cadw golwg manwl ar weithredu’r safonau yma a’u hadolygu nhw eto i fynd i’r afael â’r bylchau fydd yn amlygu eu hunain.
Bydd hefyd, wrth gwrs, angen cynllunio gweithlu yn y sefydliadau er mwyn cyflawni’r rheoliadau, ac mi fydd hynny, yn ei dro, yn cyfrannu tuag at y strategaeth miliwn o siaradwyr, maes o law.
Rydw i hefyd wedi edrych ar beth oedd gan Colegau Cymru i ddweud yn eu tystiolaeth nhw ac yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddweud, sef bod yn rhaid i’r rheoliadau weithio law yn llaw efo cynlluniau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn ein sefydliadau addysg ni. Heb i gynnwys yr addysg fod yn y Gymraeg hefyd, rhywbeth ar yr wyneb ydy llawer iawn o’r materion sydd yn y rheoliadau. Ond o roi’r ddau efo’i gilydd, ac yn enwedig, efallai, ym maes addysg bellach—mae eisiau symud ymlaen, rŵan, i gynnwys llawer iawn mwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y byd addysg bellach ac efallai dod â’r maes yna o dan adain y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ond, nid oes dim dwywaith, fe fydd y rheoliadau yma yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr allu byw drwy’r Gymraeg tra’n astudio ar ôl gadael yr ysgol yn y blynyddoedd a ddaw.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Weinidog.
Diolch yn fawr. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Sian ac i Bethan am y sylwadau maen nhw wedi’u gwneud. Nid wyf wedi cael cyfle i ddarllen yr holl dystiolaeth mae’r pwyllgor wedi’i derbyn ar y safonau yn eu cyfanrwydd a’r sylwadau cyffredinol amboutu’r system sydd gennym ni, ond mi fuaswn i’n croesawu’r cyfle i drafod gyda Chadeirydd y pwyllgor, os yw hynny’n bosibl, y ffordd y buasai hi eisiau ein gweld yn ystyried y ffordd rydym yn diwygio’r system a’r broses bresennol. Nid wyf wedi eu gweld nhw; rwy’n siŵr fy mod yn cytuno gyda lot fawr o beth sydd wedi bod yn y dystiolaeth. Rwy’n cytuno gyda’i sylwadau hi y prynhawn yma—‘damned with faint praise’—ond rwy’n cytuno gyda beth ddywedoch chi pan mae’n dod i’r system, ac rydw i’n awyddus iawn fy mod yn gallu chwarae rôl o ran newid y system ar gyfer y dyfodol fel nad ydym yn mynd trwy hyn eto.
Ar yr un pryd, rydw i’n cyd-fynd â’r sylwadau y mae Sian Gwenllian wedi’u gwneud o ran ehangu lle’r Gymraeg yn y byd addysg. Dyna beth rydym eisiau ei wneud, tra bod myfyrwyr yn y dosbarth, yn yr ystafell ddarlithio a hefyd y tu fas i hynny: galluogi myfyrwyr i fyw bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg—derbyn addysg yn y Gymraeg ac wedyn cymdeithasu a byw trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Dyna ein hamcan ni; dyna ein gweledigaeth ni. Rydw i’n cytuno ei bod hi’n anodd dweud bod unrhyw set o safonau neu ddeddfwriaeth yn mynd i fod yn berffaith; mae’n rhaid inni ystyried sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu. Mae hynny’n mynd i fod yn bwysig ac rwy’n cytuno gyda’r sylwadau bod rhaid cadw llygad ar sut maen nhw’n cael eu gweithredu. Mi fyddaf yn gwneud hynny, ond rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ni symud i ffwrdd nawr a chael trafodaeth tipyn bach mwy cyfoethog amboutu sut rydym yn gweithredu’r polisi yma, sut rydym yn gweithredu’r gyfraith yma a sut rydym yn deddfu ar gyfer y dyfodol, a deddfu ar gyfer gwlad ddwyieithog. Diolch yn fawr.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.