9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:22, 31 Ionawr 2017

Mae’r ddadl am yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb yn amserol, o ystyried yr hyn sy’n digwydd nid yn unig ym Mhrydain yn yr oes ôl-Undeb Ewropeaidd hon ond yn yr Unol Daleithiau hefyd, gydag agwedd gwahaniaethol a hiliol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn erbyn ffoaduriaid Mwslemaidd. Mi fydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych ar y cyfnod yma mewn hanes ac mi fyddwn ni, yn benodol, fel gwleidyddion, mewn perig o gael ein barnu’n llym am ein diffyg safiad yn wyneb y cynnydd mewn gwleidyddiaeth eithafol y dde. Yn rhy aml y dyddiau yma, rydw i’n cael fy atgoffa nad ydy gwleidyddiaeth yn frwydr o syniadau bellach—sosialaeth yn erbyn ceidwadaeth, unigolyddiaeth yn erbyn comiwnyddiaeth. Yn hytrach, mae hi’n frwydr ddi-dor rhwng gwleidyddiaeth o oddefgarwch a thrugaredd ar un llaw o’i chymharu â gwleidyddiaeth o anoddefgarwch a rhagfarn anhrugarog ar y llaw arall.

Mae’r adroddiad yma’n dangos nad ydy Cymru yn wlad gydradd. Mae bron i un o bob pedwar person yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae 32 y cant o blant yn byw mewn tlodi. Mae 27 y cant o bobl anabl a 38 y cant o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi. Nid ydy Cymru yn wlad gydradd. Mae ychydig dros dri chwarter y troseddau casineb y rhoddir gwybod amdanyn nhw i’r heddlu yn cael eu hysgogi gan hil, a phobl dduon sydd fwyaf tebygol o ddioddef y fath droseddau.

Beth sydd fwyaf trawiadol yn gyffredinol yn yr adroddiad yma ydy nad oes fawr o gynnydd wedi bod yn erbyn nifer fawr o’r dangosyddion yn yr adroddiad. Yn y mannau hynny lle mae yna newidiadau wedi bod, cynnydd bychan a gafwyd. Yn yr adroddiad, mae’r Llywodraeth yn nodi bod hyn yn adlewyrchu natur y dangosyddion, lle mae unrhyw symud yn tueddu digwydd yn raddol a thros gyfnod hir. Ond o edrych ar y dangosyddion hefyd, mae natur eu cynnwys yn ei gwneud hi’n anodd iawn i fesur unrhyw lwyddiannau. Felly, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliannau’r Ceidwadwyr heddiw, sydd yn galw ar y Llywodraeth

‘i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith…gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.’

Ond mae’n rhaid dweud nad oes yna amheuaeth bod y Ceidwadwyr a’u polisïau yn gyfrifol am lawer o’r anghydraddoldeb ac annhegwch cyfoes sydd yng Nghymru heddiw.

Mae yna un elfen benodol sydd ddim yn cael ei chynnwys fel rhan o strategaeth cydraddoldeb y Llywodraeth ac rydw i am dynnu sylw at honno wrth gloi fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw, a hynny ydy cydraddoldeb daearyddol sydd yn digwydd yma yng Nghymru. Rydw i’n mynd i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ystyried cynnwys elfennau daearyddol mewn unrhyw strategaeth neu arolwg newydd yn y dyfodol. Mae yna wahaniaethau mawr rhwng cyflogau mewn ardaloedd yng Nghymru. Er enghraifft, mae gweithwyr yn Nwyfor Meirionnydd yn ennill dros £100 yn llai yr wythnos na chyfartaledd Cymru, ac y mae hyn yn wir hefyd ar gyfer nifer o ardaloedd yn y Cymoedd.

Rydym i gyd yn ymwybodol bod diffyg buddsoddiad hanesyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi tueddu bod o fudd i un rhan o’r wlad, sef de-ddwyrain Lloegr, uwchlaw pob rhan arall. Ond o edrych ar wariant y pen buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf, mae’n amlwg bod y patrwm hwn wedi ei fabwysiadu yng Nghymru hefyd. Ac yn ôl ffigurau eich Llywodraeth chi, mi fydd buddsoddiad cyfalaf yng ngogledd Cymru y flwyddyn nesaf hanner yr hyn a ddisgwylir ei weld yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, os ydym ni am fynd i’r afael â’r diffyg cydraddoldeb yng Nghymru, mae’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw drafodaeth a strategaethau’r dyfodol i wneud Cymru yn fwy cyfartal yn cynnwys cydraddoldeb daearyddol.

Fe glywsom ni sôn yn gynharach yn y Siambr am yr angen am strategaeth economaidd i Gymru, a hynny ar frys. Fe ddylai strategaeth o’r fath roi ystyriaeth lawn i faterion cydraddoldeb—tlodi, yr annhegwch daearyddol sy’n bodoli yng Nghymru, yr annhegwch sy’n wynebu grwpiau lleiafrifol, a hefyd i’r anghydraddoldeb rhwng merched a dynion yn y maes gwaith—er enghraifft, 29 y cant o ferched yn ennill cyflog a oedd yn is na’r cyflog byw, ac 20 y cant ydy’r ffigur ar gyfer dynion.

Rydw i’n edrych ymlaen at weld wyth amcan cydraddoldeb Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dechrau gwreiddio yng Nghymru, ond mae angen llawer, llawer, llawer o waith i wireddu’r nod o Gymru fwy cyfartal. Ac yn allweddol yn hyn i gyd fydd y cynlluniau llesiant lleol sydd i’w cyhoeddi erbyn 2018. Mi fydd angen inni yn y Cynulliad graffu ar y rheini yn ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw yn taro’r hoelen ar ei phen.