Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 1 Chwefror 2017.
Credaf ei bod braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol y bydd Brexit mor gadarnhaol i’r diwydiant pysgota yn gyffredinol ag y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Ond rwy’n derbyn yn llwyr—ac rwyf wedi dweud sawl tro—er y bydd gadael yr UE yn peri llawer o risgiau a heriau, y bydd yna gyfleoedd yn y dyfodol. Credaf fod mynediad at y farchnad yn gwbl hanfodol, ac fel y dywedais, bydd gennym bolisi pysgodfeydd cyffredin ar gyfer y dyfodol—polisi pysgota penodol iawn i Gymru—i gymryd lle’r polisi pysgodfeydd cyffredin. Ond credaf fod angen inni ystyried yr egwyddorion sylfaenol o ran sut rydym yn rheoli ein pysgodfeydd yng Nghymru. Credaf fod angen mwy o hyblygrwydd, yn ogystal â chyfundrefnau rheoli addasadwy, ar gyfer y dyfodol.