<p>Y Diwydiant Pysgota yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:32, 1 Chwefror 2017

Gobeithio na fyddwch chi’n gwrando ar y brenhinoedd Cnut draw ar yr ochr arall, sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu rheoli’r moroedd. Ond mae yna bysgodfa bwysig yng Nghymru, sef y bysgodfa gregyn, sy’n hynod bwysig. Beth yw’r posibiliadau, wrth i ni edrych ar bysgota cregyn bylchog, er enghraifft, ac, wrth gwrs, cregyn gleision, i agor pysgodfeydd wedi eu tystio o dan gynllun y Marine Stewardship Council, er mwyn hybu pysgodfeydd yng Nghymru? A oes modd i chi ddatblygu’r ochr honno i bethau, fel ein bod ni’n cael pysgodfeydd cynaliadwy wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd?