Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Os caf ymateb i’r her a roddwyd i mi gan Simon Thomas mewn perthynas â’r Brenin Cnut, roedd y Brenin Cnut, wrth gwrs, yn ddyn doeth a ddangosodd i’w wŷr llys sebonllyd fod cyfyngiadau ar rym awdurdod brenhinol a’r llywodraeth, ac na allai rwystro’r llanw, felly teimlaf y byddai yn ôl pob tebyg wedi bod yn sgeptig mewn perthynas â chynhesu byd-eang wedi’i achosi gan bobl pe bai’n fyw heddiw. [Torri ar draws.] Ond i ddychwelyd at fusnes heddiw, a gaf fi groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ddoe ei bod yn dynodi sawl ardal cadwraeth arbennig ar gyfer llamidyddion ac adar môr eraill? Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran creu rhwydwaith cydgysylltiedig o ardaloedd gwarchodedig ar y môr i warchod ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd morol. A all ddweud wrthym pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwblhau’r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, yn seiliedig ar adroddiad cynnydd y rhwydwaith gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn 2016?