1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 1 Chwefror 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac i ofyn cwestiwn cyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Os caf ymateb i’r her a roddwyd i mi gan Simon Thomas mewn perthynas â’r Brenin Cnut, roedd y Brenin Cnut, wrth gwrs, yn ddyn doeth a ddangosodd i’w wŷr llys sebonllyd fod cyfyngiadau ar rym awdurdod brenhinol a’r llywodraeth, ac na allai rwystro’r llanw, felly teimlaf y byddai yn ôl pob tebyg wedi bod yn sgeptig mewn perthynas â chynhesu byd-eang wedi’i achosi gan bobl pe bai’n fyw heddiw. [Torri ar draws.] Ond i ddychwelyd at fusnes heddiw, a gaf fi groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ddoe ei bod yn dynodi sawl ardal cadwraeth arbennig ar gyfer llamidyddion ac adar môr eraill? Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran creu rhwydwaith cydgysylltiedig o ardaloedd gwarchodedig ar y môr i warchod ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd morol. A all ddweud wrthym pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwblhau’r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, yn seiliedig ar adroddiad cynnydd y rhwydwaith gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn 2016?
Diolch am groesawu’r datganiad ar y tri maes ychwanegol mewn perthynas â llamidyddion. Mae gwaith sylweddol ar y gweill mewn perthynas â pholisi morol a chynllunio morol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cynllun morol cenedlaethol Cymru ar waith gennym, a gobeithiaf wneud hynny erbyn yr haf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb defnyddiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol, a gwnaed cynnydd da mewn perthynas â dynodiad. Ond nid wyf yn siŵr a wnaed cynnydd tebyg ar wella’r modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Yn 2012, dywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wrth gwrs, fod 47 y cant o rywogaethau a 54 y cant o gynefinoedd safleoedd Natura 2000 mewn cyflwr anffafriol, ac yn bwysicach, nad oedd 100 y cant o’r rhywogaethau a 79 y cant o’r cynefinoedd o dan gyfundrefnau rheoli diogel i wella’r amodau. O ystyried bod cyfyngiadau ariannol ar Cyfoeth Naturiol Cymru a’u bod wedi gorfod ymdopi â thoriad o 15 y cant i’w cyllidebau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a yw’n fodlon fod ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni’r amcanion a osodir gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth?
Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn derbyn bod cyfyngiadau ariannol arnom oll, ac yn sicr, rwy’n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn fisol—gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr—ac rwy’n fodlon fod yr adnoddau hynny yn eu lle ganddynt.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Yn y cynllun gweithredu strategol ar faterion morol a physgodfeydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2013 ar gyfer Cymru, roedd paragraff 12 yn cyfeirio at adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf ym mis Ionawr 2013, a gwnaed ymrwymiad, yn dilyn hynny, i ddarparu datganiadau gweinidogol bob chwe mis i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd. Oni bai fy mod yn anghywir, nid ydym wedi cael un ers oddeutu 18 mis bellach a tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i ddychwelyd at y system o adroddiadau cynnydd bob chwe mis a roddwyd ar waith sawl blwyddyn yn ôl.
Yn sicr, rwyf wedi bod yn y swydd ers wyth mis ac ni allaf gofio cyflwyno un, felly fe edrychaf ar hynny, ac os yw’n briodol, byddaf yn gwneud datganiad, ac os nad yw’n briodol, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Ysgrifennydd Cabinet, fe fyddwch chi’n ymwybodol o’r gwaharddiadau sy’n deillio o ffliw adar ar hyn o bryd yng Nghrymu. Os yw’r gwaharddiadau yma’n para tan ddiwedd mis Chwefror, bydd 90 y cant o gynhyrchwyr wyau yng Nghymru yn colli eu statws wyau buarth neu wyau maes—beth bynnag sydd orau gyda chi—a byddwn ni felly wedi mynd heibio i’r cyfnod lle caniateir i ieir gael eu cadw o dan do. Byddwn ni’n colli statws sydd yn hynod bwysig i gwsmeriaid ac i gynhyrchwyr wyau yng Nghymru. A ydych chi’n cael trafodaethau ar hyn o bryd, drwy Lywodraeth San Steffan, gyda phartneriaid Ewropeaidd ynglŷn ag estyn y cyfnod yma neu ynglŷn ag amrywio’r gwaharddiadau?
Bydd y mesurau rhagofalus yn parhau ar waith tan 28 Chwefror. Rydych yn llygad eich lle—mae 85 y cant o gynnyrch wyau Cymru yn wyau maes. Cyfarfûm y bore yma gyda’r prif swyddog milfeddygol, ac ydy, mae’n trafod â’r gweinyddiaethau eraill. Gwn ei bod wedi cael trafodaethau ddoe gyda swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a’r bore yma hefyd, gan fod wyth achos o ffliw adar wedi bod yn y DU bellach. Credaf mai ddydd Llun y cafwyd y diwethaf, felly mae’n amlwg ei fod yn dal yn fater byw iawn. Felly, mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt.
Rwy’n falch bod trafodaethau wedi dechrau, achos, os yw’r gwaharddiadau presennol yn estyn y tu hwnt i fis Chwefror, fe fyddwn ni’n colli’r statws wyau buarth yna. Fel rŷch chi newydd ei gadarnhau, mae 89 y cant o wyau yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu o dan y statws yna. Mae hwn yn cymharu â 44 y cant drwy Brydain yn gyffredinol. Felly, rydym ni yng Nghymru yn arbenigo mewn wyau buarth ac mae’n bwysig iawn i gynhyrchwyr ein hwyau ni.
Mae arweinwyr yr undebau amaethyddol ar lefel Ewropeaidd wedi gofyn am estyn y cyfnod 12-wythnos. Mae hefyd yn wir i ddweud bod y gwaharddiadau sydd gyda chi, fel Ysgrifennydd Cabinet yng Nghymru, yn rhai rŷch chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi mewn sefyllfa o gwbl i roi amlinelliad i’r Cynulliad heddiw ar a ydych chi am barhau â’r gwaharddiadau heibio diwedd y mis bach neu a ydych mewn sefyllfa i osod camau eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys bioddiogelwch uchel, er mwyn cadw statws wyau buarth?
Nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd mewn gwirionedd i roi penderfyniad i chi ynglŷn ag ymestyn y tu hwnt i 28 Chwefror. Fel y dywedais, cyfarfûm â’r prif swyddog milfeddygol y bore yma a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf, yn dilyn ei thrafodaethau gyda’i chydweithwyr. Credaf fod angen inni edrych ar sicrhau cydbwysedd. Ni allwn gadw’r adar dan do am byth. Fodd bynnag, soniais ein bod newydd gael ein hwythfed achos yn y DU ddydd Llun, felly mae’n ymwneud â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Ond rydym yn gweithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r gweinyddiaethau datganoledig ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael cyngor arbenigol hefyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n derbyn, wrth gwrs, fod hon yn sefyllfa gyfnewidiol. Ni chredaf ein bod wedi cael unrhyw achosion newydd yng Nghymru eleni, ond nid yw hynny’n gyfystyr â dweud na chawn achos arall. Fodd bynnag, mae yna broblem wirioneddol yma, oherwydd os bydd wyau’n colli statws maes ddiwedd mis Chwefror, a bod yn onest ni fydd y cwsmeriaid yn gwybod beth y maent yn ei brynu. Gyda’r hyn y bu Cyngor Diwydiant Wyau Prydain yn ei drafod, er enghraifft, am y deunydd mewn archfarchnadoedd, gwybodaeth ac yn y blaen, credaf y byddwn yn colli peth o’r hyder sydd gan gwsmeriaid mewn wyau maes—sy’n bwysig iawn yn y cyd-destun Cymreig—a bydd dryswch ynglŷn â beth sy’n gynnyrch maes ai peidio. Rydym wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda chwsmeriaid i’w perswadio ynglŷn â materion lles anifeiliaid mewn perthynas ag wyau maes ac mae pobl wedi dod gyda ni ac maent yn barod i dalu mwy, sydd wedi golygu mwy o fuddsoddiad yn y diwydiant yng Nghymru yn ei dro. Felly, os yw hyn yn parhau ar ôl 28 Chwefror, pa gamau yr ydych yn eu cymryd eisoes gydag archfarchnadoedd a chyflenwyr wyau yng Nghymru i sicrhau bod y cwsmer yn deall y rhesymau llawn dros y fath newid yn nynodiad yr wyau y maent yn eu prynu, ac i sicrhau y gallwn gael y math o sticeri a gwybodaeth a fydd yn mynd ar yr wyau a werthir yng Nghymru wedi’u gwneud yn barod, er mwyn i bobl allu deall y sefyllfa’n iawn?
Diolch. Mae Simon Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn. Pan gefais fy mhortffolio a gweld bod 89 y cant o’n cynhyrchiant wyau yn gynnyrch maes, fe feddyliais, ‘Oni fyddai’n wych pe bai’r ffigur yn 100 y cant?’ Ond yn amlwg, allan o’r awyr las, mae rhywbeth fel hyn yn cwympo arnoch. Mae’r diwydiant wyau maes eisoes wedi cysylltu â mi i ofyn am gyfarfod; rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â hwy. Gwyddom am y gost sylweddol a fyddai’n deillio o hyn o ran eu deunydd pacio ac yn y blaen, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i’w helpu. Mae hefyd yn dangos, pan gafodd y mesurau rhagofalus eu rhoi ar waith, mai aros oedd y peth iawn i’w wneud. Yn amlwg, mae ffliw adar wedi dod i ben yn Ewrop. Ni weithredwyd yn rhy gynnar oherwydd y cyfnod hwnnw o 12 wythnos pan na allem wneud dim heblaw cadw’r adar dan do. Fel y dywedais, ni allwn eu cadw dan do am byth; mae angen i ni edrych ar hyn yn ofalus iawn. Ond mae’r sefyllfa’n gyfnewidiol a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i ni fynd drwy fis Chwefror.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa bryd y rhagwelwch y bydd grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig yn cyhoeddi ei adroddiad ar wella rheoli?
Erbyn yr haf.
Diolch am yr ateb cryno iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Roedd yn—[Anghlywadwy.] Y gwaith olaf a wnaed—. Fe’i comisiynwyd gennych, neu fe’i comisiynwyd gan eich rhagflaenydd, ym mis Mawrth 2014, felly buasai wedi cymryd ychydig dros dair blynedd iddynt i’w gwblhau, gwaetha’r modd. Gwnaed y gwaith mawr diwethaf gan ragflaenydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, a dywedodd hwnnw fod diffyg rheolaeth effeithiol yn yr ardaloedd morol gwarchodedig pwysig hyn, ond dywedodd yr adroddiad hwnnw hefyd fod angen arweiniad ar lefel uchel gan Lywodraeth Cymru, gan fod blaenoriaeth isel iawn i’r maes hwn ar draws yr awdurdodau ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno?
Na, ni chredaf fod y flaenoriaeth yn isel ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun a strategaeth. Yn fy ateb i Neil Hamilton ynglŷn â’r ymgynghoriad ar gynllun morol cenedlaethol Cymru soniais hefyd fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hadnoddau naturiol morol. Mae’n flaenoriaeth i mi. Mae’n gymhleth iawn, mae’n rhan gymhleth iawn o’r portffolio, ond byddwn yn cyflwyno’r gwaith hwnnw eleni.
A dylai fod yn flaenoriaeth, a chredaf y bydd yn dawelwch meddwl i bawb ohonom pan fyddwch yn cyflawni hynny. Mae llawer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn credu bod angen ymagwedd fwy gofodol ar ardaloedd morol gwarchodedig yn hytrach na’u bod yn benodol i rywogaethau neu gynefinoedd. Yn ychwanegol at hynny, roedd llawer yn dadlau hefyd dros ardaloedd lle na chaniateir echdynnu. A yw’n debygol mai dyma fydd y cyfeiriad polisi?
Credaf y bydd yn rhaid i’r Aelod aros am y polisi pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.