<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:39, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb defnyddiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol, a gwnaed cynnydd da mewn perthynas â dynodiad. Ond nid wyf yn siŵr a wnaed cynnydd tebyg ar wella’r modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Yn 2012, dywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wrth gwrs, fod 47 y cant o rywogaethau a 54 y cant o gynefinoedd safleoedd Natura 2000 mewn cyflwr anffafriol, ac yn bwysicach, nad oedd 100 y cant o’r rhywogaethau a 79 y cant o’r cynefinoedd o dan gyfundrefnau rheoli diogel i wella’r amodau. O ystyried bod cyfyngiadau ariannol ar Cyfoeth Naturiol Cymru a’u bod wedi gorfod ymdopi â thoriad o 15 y cant i’w cyllidebau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a yw’n fodlon fod ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni’r amcanion a osodir gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth?