<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:40, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Yn y cynllun gweithredu strategol ar faterion morol a physgodfeydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2013 ar gyfer Cymru, roedd paragraff 12 yn cyfeirio at adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf ym mis Ionawr 2013, a gwnaed ymrwymiad, yn dilyn hynny, i ddarparu datganiadau gweinidogol bob chwe mis i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd. Oni bai fy mod yn anghywir, nid ydym wedi cael un ers oddeutu 18 mis bellach a tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i ddychwelyd at y system o adroddiadau cynnydd bob chwe mis a roddwyd ar waith sawl blwyddyn yn ôl.