<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:47, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb cryno iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Roedd yn—[Anghlywadwy.] Y gwaith olaf a wnaed—. Fe’i comisiynwyd gennych, neu fe’i comisiynwyd gan eich rhagflaenydd, ym mis Mawrth 2014, felly buasai wedi cymryd ychydig dros dair blynedd iddynt i’w gwblhau, gwaetha’r modd. Gwnaed y gwaith mawr diwethaf gan ragflaenydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, a dywedodd hwnnw fod diffyg rheolaeth effeithiol yn yr ardaloedd morol gwarchodedig pwysig hyn, ond dywedodd yr adroddiad hwnnw hefyd fod angen arweiniad ar lefel uchel gan Lywodraeth Cymru, gan fod blaenoriaeth isel iawn i’r maes hwn ar draws yr awdurdodau ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno?