Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 1 Chwefror 2017.
A dylai fod yn flaenoriaeth, a chredaf y bydd yn dawelwch meddwl i bawb ohonom pan fyddwch yn cyflawni hynny. Mae llawer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn credu bod angen ymagwedd fwy gofodol ar ardaloedd morol gwarchodedig yn hytrach na’u bod yn benodol i rywogaethau neu gynefinoedd. Yn ychwanegol at hynny, roedd llawer yn dadlau hefyd dros ardaloedd lle na chaniateir echdynnu. A yw’n debygol mai dyma fydd y cyfeiriad polisi?