<p>Bioamrywiaeth mewn Amgylcheddau Morol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:54, 1 Chwefror 2017

Mi es i ar ymweliad ddydd Llun â Chemlyn, sef eiddo arfordirol hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar arfordir gogledd Môn. Mae o’n safle pwysig iawn o ran bioamrywiaeth, yn cynnwys cyfran sylweddol o boblogaeth byd y môr-wennol bigddu, neu’r ‘sandwich tern’, ac mae’n un o’r gwarchodfeydd natur hynaf ym Mhrydain, yn deillio’n ôl bron i ganrif. Mae unrhyw un sy’n adnabod Cemlyn yn gwybod ei fod yng nghysgod Wylfa. A ydy’r Gweinidog, felly, yn cytuno â fi y dylai datblygwyr Wylfa Newydd fod yn rhagweithiol, a chymryd pob cyfle posib i gefnogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei hymdrechion i ddiogelu a datblygu’r safle sensitif yma ar gyfer cenedlaethau y dyfodol?