Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyn cyfarfod â chi y bore yma, dechreuodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda sesiwn ar yr ymchwiliad morol yr ydym yn ei roi ar waith. Cafodd yr aelodau eu synnu gan gymhlethdod y ddeddfwriaeth yn y maes, y cyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd, yr amrywiaeth eang o wahanol ardaloedd gwarchodedig a’r rheolau sy’n gysylltiedig â hwy. Gydag ymestyn cyfrifoldeb Cymru y tu hwnt i’r terfyn 12 milltir, gan fynd â’r ardal honno oddi wrth Lywodraeth y DU, a chyda Brexit, tybed a fydd lle i resymoli’r system gydag un sy’n fwy seiliedig ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a hybu’r nod o gynyddu bioamrywiaeth yn ein hamgylchedd morol?