Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch. Nid yw mynediad at ddyfroedd erioed wedi bod oddi ar ein hagenda. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran cyfleoedd i bobl fwynhau’r awyr agored. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fynediad at yr awyr agored, ac rwy’n bwriadu nodi fy null o weithredu yn ystod yr wythnosau nesaf.