Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried. Mae’n debyg mai mynediad at ddyfroedd yw’r mater mwyaf dadleuol i ddeillio o’r ymgynghoriad. Mae’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y cytundebau mynediad gwirfoddol presennol—. Oddeutu 4.6 y cant yn unig o gyfanswm hyd prif afonydd Cymru sydd ar gael ar gyfer canŵio a cheufadu, felly mae angen i ni edrych ar hynny. Rydych yn llygad eich lle; pe bai angen cyfryngu, Cyfoeth Naturiol Cymru fuasai’r corff mwyaf addas i wneud hynny, ond rwy’n ystyried yr holl ymatebion, a byddaf yn cyhoeddi datganiad.