<p>Hawliau Pori ar Dir Comin</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:01, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Dywed swyddogion cynllunio o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrthyf mai mater preifat i’r partïon â diddordeb yw anghydfodau dros hawliau pori. Mae’r awdurdod lleol yn cadw cofrestr o dir comin a meysydd pentref, ond nid oes ganddo bwerau statudol i warchod neu orfodi hawl unigolyn i bori anifeiliaid ar dir comin, yn ôl yr hyn a ddywedant wrthyf. Dywed yr awdurdod lleol y dylid datrys unrhyw anghydfodau o’r fath drwy gyngor cyfreithiol.

Rwyf wedi bod yn gweithio ar achos un o fy etholwyr ac un o etholwyr Andrew R.T. Davies, yn yr ardal honno, ill dau’n ffermwyr, sy’n dymuno pori anifeiliaid ar dir comin ond yn wynebu rhwystrau go anodd rhag gwneud hynny. Gall ceisio cyngor cyfreithiol fod yn gostus a chymryd llawer o amser, ac yn rhwystr—yn rhwystr pur—i nifer ohonynt. A all Ysgrifennydd y Cabinet, felly, sicrhau bod y canllawiau’n glir, er mwyn lleihau’r angen i roi camau cyfreithiol ar waith, ac os oes angen, a allai benderfynu tybed a fyddai’n briodol diweddaru’r cyngor cyfredol mewn perthynas â’r mater hwn?