Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Chwefror 2017.
Yr wythnos diwethaf roeddech yn sôn fod rhai prosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn mynd i gael mwy o arian yn sgil tanwario mewn ardaloedd eraill, sy’n fy nharo braidd yn rhyfedd, fod rhai awdurdodau lleol i’w gweld yn eithaf gwael am ddilyn canllawiau os yw rhai’n tanwario a bod eraill heb ddigon o arian. Oherwydd nid sôn yn unig am adnewyddu meysydd parcio sy’n dadfeilio a wnawn yma; rydym yn sôn am rywbeth sydd o ddiddordeb mawr iawn i mi: byw gydol oes a’r cyflenwad tai a fuasai’n diwallu hynny. Felly, a ydych yn bwriadu defnyddio rhywfaint o’r tanwariant hwn i dargedu prosiectau penodol, ac yn arbennig y math o dai y gellir eu dwyn i ganol dinasoedd, nid yn unig tai fforddiadwy a dim byd arall wedyn, ond rhywbeth sydd â diben gydol oes iddo ?