Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 1 Chwefror 2017.
Wrth gwrs, mae’r Aelod yn crybwyll mater pwysig ynglŷn â sut y dosberthir cyllid. Mae’n deg dweud bod y polisi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi’i gymhlethu gan weithgarwch arall megis cynllunio a mynediad at dir, ac yn y blaen, felly mae hynny weithiau’n cymhlethu rhai o’r cynlluniau y credir eu bod ychydig yn haws nag eraill. Rwy’n edrych ar yr awdurdodau sy’n dod â chynlluniau amgen ataf sy’n gallu bod yn hyblyg, ond yn sicr mae’r cynlluniau y soniodd yr Aelod amdanynt, ynglŷn â chyflwyno cyfleoedd hirdymor ym maes tai, nid yn unig tai fforddiadwy, ond trawsnewid eu cymunedau, yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i fynd ar ei drywydd.