<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:22, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn rhywbeth rwyf wedi’i ddwyn i’ch sylw gryn dipyn o weithiau bellach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mewn perthynas â NSA Afan, roeddwn yn meddwl a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad, yn benodol oherwydd bod pobl ym Metws sydd â ffrydiau ariannu yn sgil darparu’r gwasanaeth hwn yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf nad oes ganddynt syniad beth sy’n digwydd. Yr hyn nad yw’n glir i mi, pan soniwyd am broblemau ym Mhlas Madoc, oedd bod y cyllid wedi parhau tan i’r ymchwiliad gael ei gwblhau. Felly, os ydych yn trin hyn mewn ffordd wahanol, rwyf am ddeall pam eich bod yn gwneud hynny. Fe sonioch am yr heddlu mewn atebion blaenorol i mi. A yw’r cyfan wedi ei drosglwyddo i’r heddlu, neu a ydych yn dal i ymchwilio’n fewnol fel Llywodraeth Cymru?