<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:23, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb yr Aelod yn hyn a diddordeb Dai Rees hefyd, yr Aelod arall sydd wedi dwyn hyn i fy sylw ar sawl achlysur. Rwy’n ofalus iawn o’r ymchwiliad sydd ar y gweill gan yr heddlu a hefyd ein hadolygiad llywodraethu o hyn. Mae ychydig yn wahanol i ddigwyddiad Plas Madoc. Ni allaf ennill, beth bynnag a wnaf. Os byddaf yn tynnu cyllid yn ôl, bydd pobl yn fy meirniadu am beidio â’i dynnu’n ôl yn ddigon cynnar, neu am beidio â’i adael yn ei le i sefydliadau. Yr hyn rwy’n ymwybodol ohono yw y gallai’r canlyniad anuniongyrchol os na fydd gan NSA gyllid—sut y gallwn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i’r gymuned leol yn cael eu parhau yn y ffordd orau sy’n bosibl. Mae fy nhîm wedi dechrau trafodaethau, trafodaethau ymlaen llaw, gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â chamu i’r bwlch ar gyfer darparu.