Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch i chi, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw, gan fy mod yn meddwl bod llawer o bobl yn y sector yn awyddus i wybod yn union sut y gall unrhyw gynllun newydd dargedu tlodi’n effeithiol. Mae llawer o’r bobl y siaradais â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi dweud ei fod yn ymwneud â’r economi a hybu’r farchnad swyddi i’r rhai llai cefnog: er enghraifft, mwy o swyddi yn agosach at ardaloedd difreintiedig, camau i wella telerau ac amodau—er enghraifft, cyflog byw—a strategaethau i wella sectorau cyflog isel, e.e. gofal cymdeithasol a thwristiaeth. A yw’r rhain yn bethau rydych yn eu hystyried fel elfennau allweddol o unrhyw raglen newydd, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf wedi cael eu rhedeg yn dda ac yn effeithiol, ond buasem yn dweud bod llawer ohonynt nad ydynt wedi cyflawni’r amcanion o ran dileu neu drechu tlodi yn eu hardaloedd?