Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 1 Chwefror 2017.
Wrth gwrs, rwy’n ddiolchgar am farn yr Aelod ar Cymunedau yn Gyntaf a barn llawer o Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Daeth cyfnod ymgynghori 1 i ben ar 15 Ionawr. Rwy’n synnu ynglŷn â sylwadau’r Aelod yn dweud nad oedd yn llwyddiannus iawn neu wedi’i ddarparu’n llwyddiannus gan drydydd parti—rwy’n tybio bod hynny’n anghywir. Cawsom dros 2,300 o ymatebion, yn bennaf—80 y cant ohonynt—gan y gweithlu neu bobl sy’n gysylltiedig â’r sefydliad yn y lle cyntaf. Mae fy nhîm yn dadansoddi’r ymateb i’r rhaglen yn agos iawn—maent yn rhoi cyngor i mi ar yr union fater hwnnw ac rwy’n gobeithio gwneud datganiad ynglŷn â’r hyn yw cymunedau cryf o fewn y ddwy neu dair wythnos nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod yn caniatáu peth amser i mi gwblhau manylion sut beth fydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol, ond byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr hon i roi gwybod i’r Aelodau.