<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 2:34, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gorfodi hawliau cyflog cyfartal yn cael ei wneud yn anodd iawn, os nad yn amhosibl, gan ddiffyg tryloywder ynglŷn â chyflogau ar ran cyflogwyr. Ni all gweithiwr wneud hawliad ynghylch cyflog cyfartal oni bai eu bod yn gwybod beth yw cyflog pawb arall a chael cymharydd. Rhaid cyfaddef, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros yr hyn y mae cyflogwyr yn y sector preifat yn ei wneud. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai data cyflog ar bob lefel fod ar gael i weithwyr y sector cyhoeddus er mwyn hwyluso’r broses o orfodi eu hawliau cyflog cyfartal?