Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod yn cael cydraddoldeb wrth werthuso swyddi. Mae’n rhywbeth y mae llawer yn y Siambr hon, ym mhob plaid, wedi’i hyrwyddo ers blynyddoedd lawer. Mae sicrhau bod hynny’n digwydd yn fater arall, ond rydym wedi dioddef y pla o helwyr ambiwlansys sy’n ceisio atal cyflog cyfartal ar y sail fod pobl am atal yr hawliadau rhag cael eu cyflwyno. Ac rwy’n credu bod llawer o awdurdodau lleol wedi gweithredu’n gyfrifol iawn o ran y ffordd y maent yn gweithredu. Mae’r undebau llafur wedi cyflwyno deddfwriaeth a chymorth ar gyfer ymyriadau’r Llywodraeth mewn awdurdodau lleol, ac mae’n rhywbeth rwy’n awyddus iawn i ni fynd ar ei drywydd.