Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Ni yw’r wlad gyntaf i roi chwarae ar sylfaen statudol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n hawdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid, i sicrhau, lle y bo’n ymarferol, cyfleoedd chwarae sy’n diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardaloedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i gefnogi’r nod hwn.