Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer rhai sydd â nam ar y synhwyrau, wedi darganfod bod 92 y cant o rieni sydd â phlant anabl yn teimlo nad yw eu plant yn cael yr un cyfleoedd i chwarae â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae canllawiau cyfredol, fel yr ydych yn ei ddweud yn hollol gywir, yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i wneud chwarae’n hygyrch. Rwyf wedi gweld tystiolaeth dda o hyn yn fy ardal fy hun gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr mannau chwarae eraill, megis datblygiadau tai preifat neu gynghorau cymuned, er mwyn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gwneud mannau chwarae mor hygyrch â phosibl?