<p>Chwarae Hygyrch</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:45, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Croesewir ffocws y Llywodraeth ar chwarae. Erbyn hyn mae gennym ddogfen Lywodraeth weddol swmpus ar hyn. Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, gweithwyr cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Problem fawr, fodd bynnag, yw bod cymaint o rieni yn eisteddog neu hyd yn oed yn ordew fel bod rhaid eu perswadio i fynd allan o’r tŷ i’r parc lleol i chwarae gyda’u plant. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwn ei wneud i annog hyn.