Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 1 Chwefror 2017.
Wel, mae’n waith i bawb ohonom. Gall llywodraethau wneud llawer o bethau, ond nid yw dweud wrth bobl am fynd allan ar eu beiciau’n rhywbeth rwyf am ei wneud yn sicr. Un o’r pethau newydd a ddigwyddodd y llynedd—ac roedd rhai pobl yn feirniadol iawn ohono—oedd yr ap Pokémon Go a ddefnyddiwyd ar lawer o ffonau. Rwy’n gwybod bod llawer o blant nad oeddent yn codi eu pennau o’u ffonau ac yn taro i mewn i waliau ac yn y blaen, ond llwyddodd i dynnu pobl allan o’u tai. Roedd honno’n ffordd glyfar iawn o gael pobl yn ôl i mewn i’w cymunedau. Felly, mae yna raglenni yr ydym yn ceisio eu gwneud. Mae Ken Skates yn hyrwyddo’r argymhellion hyn, ac rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gydag ef ynglŷn â sut y gallwn gael mwy o bobl i wneud gweithgarwch corfforol yn ein cymunedau.