<p>Trais Domestig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:47, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’i phartneriaid i fanteisio ar bob cyfle i fynd i’r afael â thrais domestig. Ein nod yw ymagwedd fwy cydgysylltiedig tuag at gyhoeddusrwydd gyda gweithgaredd parhaus i gynulleidfa mor eang â phosibl. Fel rhan o’r dull hwn, bydd cynnydd yn y lefel o weithgaredd cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng yr ymgyrch Byw Heb Ofn dros gyfnod y bencampwriaeth.