Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mae’r sgyrsiau rwy’n eu cael â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol yn rhai pwysig ar y sail fy mod yn gwybod pe na bai gennym wirfoddolwyr yn ein cymunedau, buasai gwasanaethau statudol yn methu; ni fuasem yn gallu cyflawni’r pethau rydym am eu gwneud gyda’n gilydd. Dyna pam rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud. Ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw cael gwared ar beth o’r dyblygu a gwneud yn siŵr fod gennym wasanaethau da, effeithiol, ac mae hynny’n wir am y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, ac ymateb y sector cyhoeddus hefyd. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn ddod o hyd i ffordd drwy hyn. Ond fel y dywedais yn y gorffennol, rwyf wedi rhyddhau £4.4 miliwn o gyllid eleni, a byddaf yn edrych yn ofalus ar sut y mae hynny’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf.