Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, mae gennyf ddadl fer yn ddiweddarach heddiw ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Nid chi fydd yn ymateb; Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fydd yn gwneud hynny. Yn y ddadl honno, byddaf yn nodi’r ffaith ei bod yn fargen sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol, ac yn amlwg, bydd yn ymwneud â thyfu cysylltiadau rhwng cymunedau a fydd yn cryfhau’r cymunedau hynny—cymunedau trefol a gwledig, hynny yw. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ynglŷn â defnyddio cyllid sylweddol y fargen ddinesig a ddaw, nid yn unig o’r lle hwn, ond hefyd o San Steffan i sicrhau bod y cyllid yn mynd tuag at gryfhau ein cymunedau gwledig a chryfhau prosiectau megis metro de Cymru, a fydd yn sicrhau bod pobl sy’n byw yn rhai o’r rhannau mwy pellennig o ranbarth Dwyrain De Cymru yn gallu cyrraedd ardaloedd fel Caerdydd a Chasnewydd mor gyflym ac mor hawdd â phosibl i sicrhau eu bod yn well eu byd yn economaidd?