Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae gennym gamau ar waith i wella ein gofal iechyd yng Nghymru drwy gynllun cyflenwi ar gyfer gofal llygaid, ynghyd â’r cynllun gwella gofal offthalmoleg wedi’i gynllunio. Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn tanlinellu’r angen am welliant pellach ledled Cymru. Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd weithredu’r camau sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bob claf.