5. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Ymchwiliadau'r Pwyllgor

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:10, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i siarad heddiw ac i roi gwybod i fy nghyd-Aelodau Cynulliad am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am ystyried ac ymchwilio adroddiadau gwerth am arian a gynhyrchir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Hyd yma yn y Cynulliad hwn, rydym eisoes wedi ymgymryd â nifer o ymholiadau yn seiliedig ar yr adroddiadau hyn, gan gynnwys Kancoat a llifogydd ac erydu arfordirol, ac mae gennym nifer o ymchwiliadau eraill wedi’u trefnu, gan gynnwys creu incwm a ffioedd a rheoli meddyginiaethau.

I gyd-fynd â’r gwaith hwn, ar ddechrau’r Cynulliad hwn, penderfynodd y pwyllgor adeiladu ar waith arloesol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod y Cynulliad diwethaf, a gyflwynodd y cysyniad o ymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor ym maes cyfrifon cyhoeddus. Felly, fel pwyllgor, cytunasom i ddatblygu rhaglen uchelgeisiol o ymchwiliadau i ymgymryd â hwy yn ystod y Cynulliad hwn, ac rydym yn bwriadu gosod pobl yn gadarn wrth wraidd pob un o’n hymchwiliadau dan arweiniad pwyllgor. Mae hyn, gobeithio, yn newid cadarnhaol, a bydd yn gwneud gwaith hanfodol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn fwy dealladwy i bawb yng Nghymru.

Yn gyntaf, rydym wedi cytuno i fabwysiadu ymagwedd thematig tuag at ein gwaith craffu blynyddol ar y cyfrifon, felly, er enghraifft, ar gyfer cyfrifon 2015-16, buom yn canolbwyntio ar gyrff addysgol, a gwelsom eu bod, ar y cyfan, yn dda yn ein barn ni. Credwn y bydd gosod thema wahanol ar gyfer pob blwyddyn yn ychwanegu eglurder i’r cyhoedd mewn perthynas â’r gwaith hwn. Er, wrth wneud hyn, mae’n bosibl na fyddwn bob amser yn datgelu sgerbydau yng nghypyrddau sefydliadau, ond mae wedi cael effaith ataliol drwy sicrhau bod cyrff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn teimlo pwysau ar bob lefel i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. Ac yn wir, yr wythnos hon, cytunodd y pwyllgor i alw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ôl ar gyfer craffu ar gyfrifon ym mis Medi, ar ôl ystyried adroddiad diweddar yr archwilydd cyffredinol ar lywodraethu yn y Llyfrgell Genedlaethol—mater arbennig o berthnasol o ystyried y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol am y trefniadau llywodraethu.

Ein prif waith dan arweiniad y pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn yw ystyried trosolwg rheoleiddio cymdeithasau tai. Mae gennym ddiddordeb yn y mater hwn am fod cymdeithasau tai yn derbyn symiau sylweddol o arian cyhoeddus, yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn digartrefedd ac yn cyfrannu at yr economi ehangach. Mae’r pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod y trefniadau rheoleiddio cyfredol yn effeithiol ac yn effeithlon, a bod trefniadau llywodraethu o fewn y sector yn gadarn. Mae hwn yn waith amserol, o ystyried y trafodaethau ynglŷn â dosbarthiad y cyrff pwysig hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fel gwaith sydd wedi cael ei ysgogi gan y pwyllgor, rydym wedi gallu rhoi tenantiaid wrth wraidd yr ymchwiliad hwn, sy’n rhywbeth y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni. Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiad diddorol a llawn gwybodaeth i randdeiliaid gydag ystod o denantiaid, ac yfory, byddwn yn cyhoeddi arolwg gyda’r nod o gyrraedd cynulleidfa mor amrywiol ag y bo modd. Rydym wedi mynd ati’n rhagweithiol i ymgysylltu â sefydliadau perthnasol i raeadru gwaith y pwyllgor ac i sefydlu deialog agored gyda’r rhanddeiliaid hynny ar bob lefel.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi dechrau pennu cwmpas ein gwaith nesaf i edrych ar gonsortia addysg rhanbarthol. Efallai fod yr Aelodau eisoes wedi gweld y memorandwm defnyddiol a baratowyd gan yr archwilydd cyffredinol ar gyfer y pwyllgor yn nodi’r sefyllfa bresennol gyda’r consortia. Mae’r pwyllgor wedi dechrau casglu tystiolaeth ar gyfer hyn a newydd gyhoeddi arolwg ar y cyd gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—sy’n gam arloesol yn y gobaith o atal pobl rhag blino ar ymgynghoriadau—i glywed gan athrawon a gweithwyr proffesiynol yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau.

Yn olaf, ar y gorwel, rydym yn bwriadu gwneud cryn dipyn o waith i edrych ar drefniadau llywodraethu a chymorth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Rydym wedi nodi pedair elfen ar gyfer hyn: gwariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; gwerth am arian y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer lleoliadau maeth; ac effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol. Byddwn yn ymgymryd â hyn fel rhaglen dreigl o waith, gan chwarae ar bŵer dyfalbarhad na fyddwn yn camu’n ôl hyd nes y gwelwn welliannau sylweddol yn y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario yn y maes hwn.

Er efallai nad yw llawer o’r hyn y soniais amdano heddiw ynglŷn ag anelu i sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio mwy ar y dinesydd yn hynod o arloesol i bwyllgorau’r Cynulliad sy’n seiliedig ar bolisi ehangach, mae’n gam mawr i bwyllgor cyfrifon cyhoeddus, a gobeithio y bydd yn helpu i gynnwys pobl a chynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’n rôl fel stiwardiaid y pwrs cyhoeddus. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pob Aelod i hyrwyddo’r gwaith hwn, yn enwedig ein harolygon, a chyflwyno unrhyw feysydd y credwch y dylai’r pwyllgor eu hystyried yn y dyfodol. Diolch yn fawr.