Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mwynheais fod yn rhan o’r pwyllgor hwn yn fawr a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth o’i flaen fel tystion. Roeddent yn fanwl iawn, roeddent yn wybodus iawn ac ar y cyfan, roeddent yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r gwahanol feysydd yr oeddent yn eu cynrychioli. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm clercio a’r staff am gael cystal trefn arnom.
Rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn siarad drosto’i hun. Mae yna gryn dipyn o fanylder yn yr adroddiad, a phan fyddwch yn darllen Cofnod y Trafodion, ceir mwy byth o fanylion yno. Ond i mi, yn dod at hyn mewn modd newydd sbon—dyma’r tro cyntaf i mi eistedd ar y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol—roedd yna ddau brif faes yn amlygu eu hunain—dau fater mawr. Yn gyntaf, er bod y pwysau ar y GIG yn parhau’n gyson 365 diwrnod y flwyddyn, nid oes amheuaeth ei fod yn newid ei ffurf yn y gaeaf. Rydym yn gwybod ei fod yn newid ei ffurf, a phob gaeaf gwyddom ei fod yn mynd i newid ei ffurf am mai math gwahanol o glaf sy’n cael eu derbyn yn bennaf, math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaeth ambiwlans a math gwahanol o glaf sydd angen y gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Felly, ni ddylai fod y tu hwnt i allu pawb ohonom yma—ond yn enwedig Llywodraeth Cymru, gan mai eich cyfrifoldeb chi ydyw, Ysgrifennydd y Cabinet—i sicrhau bod y byrddau iechyd yn adlewyrchu nid yn gymaint y pwysau, ond y newid yn y pwysau, fel ein bod yn sicrhau cydweithio da ac integreiddio da, a’n bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael mathau penodol o welyau, oherwydd fe wyddom, er enghraifft, ein bod yn mynd i gael llawer iawn mwy o blant ifanc ac rydym yn mynd i gael llawer iawn mwy o bobl oedrannus; ein bod yn meddwl am bethau fel cydleoli a’n bod yn meddwl sut y gallwn wneud taith pobl drwy’r adrannau damweiniau ac achosion brys a thrwy unedau penderfyniadau clinigol i’r ysbyty ac yn ôl allan o’r ysbyty yn llawer cyflymach a mwy effeithlon.
Nid oes neb yn bychanu’r ffaith fod y pwysau yno bob amser, ond rydym yn gwybod wrth i’r gaeaf ddod—a daw’n aeaf bob blwyddyn—y bydd ffurf y pwysau’n newid. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, cawsom adroddiad pwyllgor yn 2013 a gyfeiriai at yr union faterion hyn, ac nid ydym yn dysgu’r gwersi. Felly, mae fy nghwestiwn cyntaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ddifrif yn pwysleisio’r ffaith fod angen i ni fod ar flaen y gad a deall nad yw’r pwysau bob amser yr un fath, ni waeth sut y byddwn yn ei ddisgrifio.
Yr ail faes a ddaeth yn amlwg iawn i mi yn y pwyllgor hwn oedd yr holl stori sy’n ymwneud ag integreiddio a chydweithio. Yn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, rydych yn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod
‘disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu’n rheolaidd â’r sector gofal cymdeithasol a’r sector annibynnol wrth ddatblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig’.
Cerddais o’r pwyllgor hwnnw gyda theimlad sicr iawn nad oedd meddygon teulu yn teimlo bod unrhyw un wedi ymgynghori â hwy go iawn na’u bod wedi bod yn rhan o’r broses gydweithredol o gyflawni cynlluniau pwysau’r gaeaf a gofal iechyd ar gyfer y gaeaf, a cherddais o’r pwyllgor hwnnw hefyd yn teimlo nad oedd y sector gofal wedi cael rhan hynod o fawr yn y gwaith mewn gwirionedd. A dyna pam fy mod yn siomedig iawn o weld eich sylwadau ar argymhelliad 6 a’ch gwrthodiad i dderbyn yr argymhelliad hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod trosolwg o’r farchnad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hollol hanfodol, a hoffwn gael eglurhad o’r amseriadau a thrylwyredd y gwaith sy’n mynd i gael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal a Gwaith Cymdeithasol Cymru a’r bwrdd comisiynu cenedlaethol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod y farchnad ym maes gofal cymdeithasol yn eithriadol o fregus ar hyn o bryd.
Mae yna nifer fawr o rwystrau i dwf pellach y farchnad gofal cymdeithasol: ceir llai a llai o welyau cartrefi gofal, mae’r stoc adeiladau’n heneiddio, a rheoliadau a chyfyngiadau ariannol yn dechrau cael effaith. Os ydym yn mynd i dderbyn eich ymateb i argymhelliad 1, sef eich bod yn credu bod angen i ni fwrw ymlaen a gwneud mwy o integreiddio, mwy o gydweithio, adeiladu’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn sy’n edrych ar y sector cyfan—yr holl ffordd o ofal sylfaenol, pan fyddai rhywun yn cerdded allan drwy’r drws am y tro cyntaf gyda phroblem, yr holl ffordd i’r ysbyty ac yna efallai yn ôl i gartref gofal—rhaid i ni gynnwys pob un o’r elfennau hynny yn y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hyn. Ni chefais unrhyw deimlad—unrhyw wir deimlad—fod unrhyw un o’r byrddau iechyd a gyfwelwyd gennym neu’r tystion a welsom yn credu bod y cydweithio hwnnw rhwng yr holl sectorau wedi’i gyflawni’n llwyddiannus mewn gwirionedd. Oni bai ein bod yn gallu sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cadarn o’n blaenau, gyda’r ewyllys gorau yn y byd, gyda’r holl gynllunio gyda meddygon teulu, gydag unrhyw gynllunio mewn ysbytai, os na allwn fynd â phobl sy’n iach allan o’r ysbyty a’u rhoi mewn lleoliad gofal cymdeithasol, credaf ein bod yn mynd i wynebu’r goralw cyson am welyau yn ein hysbytai, ac mae hynny’n dod â’r holl broblemau eraill hynny yn ei sgil yr holl ffordd at ddrws blaen yr ysbyty ac yna’n ôl drwy ddrws cefn y meddygfeydd. Felly, dyna fy nau bwynt, Ysgrifennydd y Cabinet, a buaswn yn eich annog yn wir i edrych ar ffordd o fynd i’r afael â chyflwr y farchnad mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau cydweithio ac integreiddio, a derbyn bod y pwysau yno bob amser, ond bod pwysau’n edrych yn wahanol ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Diolch yn fawr iawn yn wir.